Mae ymgysylltu â chymunedau De Cymru yn elfen hanfodol o rôl yr Awdurdod Heddlu.
Yn aml camddehonglir ymgysylltu â'r gymuned fel rhywbeth sy’n ymwneud yn unig ag ymgynghori a gofyn barn y cyhoedd. Mewn gwirionedd mae’n mynd yn llawer pellach na hynny ac mae’n ymwneud â chael deialog agored gyda’r gymuned.
Mae ymgysylltu â'r gymuned yn ymwneud mewn rhyw ffordd â holl elfennau'r gwaith yr ymgymerir ag ef, boed yn ofyn barn y cyhoedd ar flaenoriaethau, ateb gohebiaeth a dderbyniwyd neu ateb y ffôn.
Er mwyn gweld ein strategaeth ymgysylltu â'r gymuned yn llawn, lawrlwythwch y ddogfen isod.