South Wales Police Authority

Ymgynghori

Ymgynghori

Mae’n rhaid i bob Awdurdod Heddlu wneud tair dyletswydd allweddol:

1. Sicrhau gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol.

2. Sicrhau Gwerth Gorau, h.y. gwelliant parhaus yn y modd y gwneir ei swyddogaethau gan ystyried darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.

3. Gwneud trefniadau ar gyfer cael:
  • Barn y bobl leol ynglyn â phlismona eu hardal; a
  • Chydweithrediad pobl leol mewn atal troseddu.

Wrth berfformio’r drydedd ddyletswydd, mae gan yr Awdurdod Heddlu ddyletswydd i ymgynghori â chymunedau lleol ar nifer o faterion, yn cynnwys gosod blaenoriaethau plismona a’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, yn arbennig yr elfen blismona o'r dreth gyngor leol.

Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cymryd ei gyfrifoldeb cyfreithiol o ymgynghori â’r cyhoedd o ddifrifol iawn ac mae’n cynnal nifer o arolygon barn ac ymgyrchoedd bob blwyddyn.

Gellir gweld manylion llawn ar sut y gallwch gael rhan yn yr ymgynghori ar y tudalennau eraill yn yr adran hon.

Er mwyn gweld y strategaeth ymgynghori llawn, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Strategaeth Ymgynghori Maint: [1.92 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Consultation Review 2009-10 Maint: [1.89 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Consultation Plan 2009-10 Maint: [1.83 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Consultation Review 2008-09 Maint: [1.93 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Joint Consultation Toolkit Maint: [1.79 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Cymrhyd Rhan

Cymrhyd Rhan Gallwch gymryd rhan gyda’r Awdurdod Heddlu mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys gwirfoddoli, ymgynghori a gwobrau.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.
Hafan