Mae cyfathrebu yn elfen allweddol o amcan trosfwaol Awdurdod Heddlu De Cymru i ymgysylltu â’r cymunedau lleol a gynrychiolwn, ac mae’n rhan annatod o’n gwaith.
Rydym yn cyfathrebu bob dydd gydag ystod eang o bobl, boed hynny dros y ffôn, drwy ohebiaeth neu drwy ein gwefan. O ganlyniad, rydym am sicrhau bod ein gwybodaeth yn berthnasol ac yn ddealladwy.
Drwy gydol y flwyddyn cynhaliwn amrywiaeth eang o weithgareddau cyfathrebu cynlluniedig. Mae'r rhain yn cynnwys:
- Eich Heddlu: Eich Crynodeb Plismona Lleol Cymunedol
- Eich Heddlu: Eich Arian Hysbysiad Praesept y Dreth Gyngor
- Gwobrau Gwirfoddolwr Diogelwch Cymunedol y Flwyddyn.
- Cylchlythyr Chwarterol
Gellir cael gwybodaeth lawn am ein strategaeth cyfathrebu a’n gweithgareddau am y flwyddyn nesaf yn y dogfennau isod.