Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i ymgysylltu ac ymgynghori â’r cyhoedd.
Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i ymgynghori a chanfod barn pobl pan ddaw yn fater plismona a’u blaenoriaethau.
Fodd bynnag, rydym am fynd yn bellach na hyn a chael eich cymorth chi pan ddaw hi yn fater o wneud penderfyniadau ar sut y gwneir y gwaith plismona.
Drwy gydol y flwyddyn rydym yn cynnig amrywiaeth o ffyrdd gwahanol i bobl i ddod i gyfranogi a chael cyfle i ddweud eu dweud. Mae'r rhain yn cynnwys:
-
Sioeau teithiol
-
Holiaduron
-
Cyfarfodydd
-
Panel Dinasyddion
Caiff yr holl ganlyniadau eu bwydo'n uniongyrchol i’r Awdurdod Heddlu a’r Llu, sy’n eu defnyddio i’w cynorthwyo i wneud penderfyniadau allweddol ar gyfer plismona yn Ne Cymru.
Byddwch yn rhan
Rydym yn cadw rhestr o bobl sy’n dymuno i ni ymgynghori â hwy ar wahanol faterion. Os hoffech fod yn rhan o hyn, cliciwch ar y ddolen isod a rhoi eich manylion.
Cliciwch yma i gofrestru
Canlyniadau
Caiff ein holl ganlyniadau eu rhoi ar y wefan hon o fewn un mis i ddiwedd yr ymgynghoriad.