Mae’r Llywodraeth wedi cynnig nifer o newidiadau i blismona sydd, meddai hi, â’r nod o gynyddu atebolrwydd yn yr heddlu. Hoffem wybod eich barn am y rhain.
Mae’r cynigion llawn ar gael ar wefan y Swyddfa Gartref, Rhai o’r pwyntiau allweddol sydd â’r nod o gynyddu atebolrwydd yr heddlu yw:
-
Diddymu Awdurdodau Heddlu, i’w disodli gan Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd (CHTh) wedi eu hethol yn uniongyrchol;
-
Un CHTh ar gyfer bob llu yng Nghymru a Lloegr
-
Bydd gan y CHTh bump rôl allweddol:
- cynrychioli ac ymgysylltu â’r rheiny sy’n byw ac yn gweithio yn y cymunedau yn eu hardal a chanfod eu hanghenion o ran plismona;
- gosod blaenoriaethau sy’n bodloni’r anghenion hynny;
- dal y Prif Gwnstabl i gyfrif am gyflawni’r blaenoriaethau hyn mor effeithlon ac effeithiol â phosibl;
- pennu cyllideb y llu a phennu elfen plismona'r dreth gyngor (yn amodol ar refferendwm); a
- phenodi a, lle bo angen hynny, diswyddo’r Prif Gwnstabl.
-
Bydd CHTh yn gyfrifol am ei gwneud hi’n ofynnol i’w llu gynnal cyfarfodydd rhawd rheolaidd er mwyn bod mor gynhwysol â phosibl i’r boblogaeth ehangach.
Yn y bôn, bydd rôl bresennol a dyletswyddau statudol Awdurdod Heddlu ac, yn arbennig, dal y Prif Gwnstabl i gyfrif yn cael ei gwneud gan y CHTh. Bydd hon yn rôl arbennig o bwerus ac mae’r Llywodraeth Glymblaid yn cydnabod yr angen i gadw ‘rhwystrau a gwrthbwysau’.
Ceir hefyd, felly, gynnig i greu Panel Heddlu a Throsedd (PHTh). Bydd y paneli yn cynnwys Cynghorwyr a etholir yn lleol o wardiau cyfansoddol ac aelodau lleyg annibynnol. Eu prif rôl fydd:
-
Cynghori’r Comisiynydd ar y cynlluniau plismona a’r gyllideb arfaethedig;
-
Ysgogi refferendwm ar y praespt plismona, os bydd angen;
-
Cynnal gwrandawiadau cadarnhau ar gyfer swydd Prif Gwnstabl ac ar gyfer penodiadau eraill a wneir gan y Comisiynydd i’w staff;
-
Penodi Comisiynwyr Dros Dro, pan fydd angen; a
-
Gofyn i Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC) ymchwilio’r Comisiynydd mewn achosion lle honnir camymddwyn.
Fel Awdurdod Heddlu, rydym wedi ymrwymo i weithio er lles ein cymunedau. Byddwn yn gweithio’n agos gyda’r Swyddfa Gartref i sicrhau bod unrhyw newidiadau a gyflwynir er budd y bobl yr ydym yn eu cynrychioli.
Yn sicr nid yw Awdurdod Heddlu De Cymru yn gwrthwynebu’r newid, ac mae’n croesawu unrhyw gynigion a fydd yn golygu cynnydd yn atebolrwydd yr heddlu i’r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym am sicrhau bod unrhyw newidiadau a wneir i'r system gyfredol yn fforddiadwy ac y byddent mewn gwirionedd yn golygu gwelliannau.
Cliciwch yma i ateb