Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cymryd ei gyfrifoldeb cyfreithiol o ymgynghori â’r cyhoedd o ddifrifol iawn ac mae’n cynnal nifer o arolygon barn ac ymgyrchoedd bob blwyddyn.
Mae’n rhaid i bob Awdurdod Heddlu wneud tair dyletswydd allweddol:
1. Sicrhau gwasanaeth heddlu effeithlon ac effeithiol.
2. Sicrhau Gwerth Gorau, h.y. gwelliant parhaus yn y modd y gwneir ei swyddogaethau gan ystyried darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd.
3. Gwneud trefniadau ar gyfer cael:
Wrth berfformio’r drydedd ddyletswydd, mae gan yr Awdurdod Heddlu ddyletswydd i ymgynghori â chymunedau lleol ar nifer o faterion, yn cynnwys gosod blaenoriaethau plismona a’r gyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, yn arbennig yr elfen blismona o'r dreth gyngor leol.
Er mwyn gweld y strategaeth ymgynghori llawn, lawrlwythwch y ddogfen isod.