Prif swyddogaeth yr Awdurdod yw dal y Llu i gyfrif ar ran y cyhoedd ac i sicrhau y caiff gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon ei ddarparu ledled De Cymru.
Er mwyn gwneud hyn mae'r Awdurdod yn monitro ac yn craffu gwaith a pherfformiad y Llu ac yn ymgynghori â chymunedau ledled De Cymru i ddarganfod eu barn a'u sylwadau ar flaenoriaethau ac arddull plismona.
Mae gan yr Awdurdod Heddlu ddyletswydd statudol i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn y Llu yn ogystal â'r Awdurdod. Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i fodloni'r ddyletswydd hon ac i gydnabod y manteision a ddaw yn sgil hyrwyddo cydraddoldeb i'r Awdurdod Heddlu, y Llu a chymunedau De Cymru.
Ein Hymrwymiad i Gydraddoldeb ac Amrywiaeth
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i weithio dros gydraddoldeb a thegwch i bawb. Gweithiwn i sicrhau bod parch i gydraddoldeb, amrywiaeth a hawliau dynol yn amlwg ac yn cael ei hyrwyddo ym mhopeth a wnawn ac wrth wneud ein swyddogaethau anelwn i ddileu gwahaniaethu ac aflonyddu a hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a hygyrchedd.
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd parchu a gwerthfawrogi gwahaniaeth, gan wybod bod yr amrywiaeth sy'n bodoli yn Ne Cymru yn cyfoethogi'r Awdurdod Heddlu a'n cymunedau. Ymdrechwn i adlewyrchu'r amrywiaeth hwn o fewn yr Awdurdod Heddlu ac i'w annog yn weithredol yn y Llu.