Cynllun Iaith Gymraeg
Mae Cymru yn genedl gyda chyfoeth o dreftadaeth a diwylliant heb ei ail. Mae ein hiaith yn achos balchder mawr i ni ac mae'r ffaith bod niferoedd y siaradwyr a'r dysgwyr yn cynyddu bob blwyddyn yn ei gwneud yn hollbwysig bod sefydliadau yn gwneud popeth a allant i ddiwallu anghenion a disgwyliadau defnyddwyr yr iaith Gymraeg.
Rydym wedi rhoi ymrwymiad clir y bydd y gwasanaeth heddlu, wrth gynnal busnes cyhoeddus a gweinyddu cyfiawnder yng Nghymru, yn trin yr iaith Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal.
Mae'r cynllun hwn yn esbonio sut y byddwn yn bodloni'r ymrwymiad hwn, drwy hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r iaith Gymraeg yn y gweithle ac ar y pwynt lle darperir gwasanaeth. Mae'r Cynllun hwn yn nodi’r targedau yr ydym wedi eu gosod i'n hunain er mwyn gwella ein safonau gwasanaeth.
Er mwyn darllen y ddogfen lawn, cliciwch yma.