South Wales Police Authority

Polisi Rheoli Risgiau

Polisi Rheoli Risgiau

Rheoli risgiau yw’r broses o:
  • Adnabod risgiau i gyflawni nodau ac amcanion.
  • Gwerthuso canlyniad posibl y risgiau hyn.
  • Penderfynu ar fesurau rheoli priodol yn erbyn risgiau a’u gweithredu.
  • Ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o fonitro a lliniaru risgiau.
 
Mae rheoli risgiau yn effeithiol yn helpu i gyflawni amcanion, yn cynyddu ansawdd ac effeithlonrwydd sefydliad i’r eithaf, ac yn cynnal ei enw da. Gall hefyd helpu i adnabod cryfderau, gwendidau a chyfleoedd ym musnes sefydliad o ddydd i ddydd ac yn y tymor hirach.
 

Diffiniad o Risg

 
O fewn Awdurdod Heddlu De Cymru risg yw canlyniad digwyddiad, a fyddai pe bai’n cael ei achosi:
  • Yn effeithio ar allu’r Awdurdod i gyflawni ei weledigaeth a’i amcanion, naill ai yn y tymor byr neu’r hir dymor.
  • Yn arwain at rwymedigaethau ariannol.
  • Yn gwneud niwed i enw da yr Awdurdod a’r Llu.
  • Yn lleihau hyder mewn plismona yn Ne Cymru.
 
Caiff y Gofrestr Risg ei diweddaru’n gyson ac fe'i cyflwynir i Grwp Archwilio a Chraffu yr Awdurdod yn rheolaidd.
 
Cliciwch ar y ddogfen isod i weld y Strategaeth a’r Polisi Rheoli Risgiau llawn.
Polisi Rheoli Risgiau Maint: [170 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
What do you think our equality priorities should be for the years ahead?
Click here to take part.

Newyddion yr Awdurdod

Newyddion yr Awdurdod Ewch at ein hadran newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Awdurdod Heddlu.
Cliciwch yma am y diweddariadau diweddaraf.
Hafan