South Wales Police Authority

Polisi Adrodd Cyfrinachol

Polisi Adrodd Cyfrinachol

Yn aml gweithwyr ac Aelodau yw'r cyntaf i sylweddoli y gall fod rhywbeth mawr o le yn yr Awdurdod.
 
Fodd bynnag, efallai na wnânt fynegi eu pryderon oherwydd eu bod yn teimlo y byddai datgan eu barn yn annheyrngar i'w cydweithwyr neu i'r Awdurdod. Efallai eu bod hefyd yn ofni aflonyddu neu erledigaeth. Yn yr amgylchiadau hyn efallai ei bod yn haws anwybyddu'r pryder yn hytrach na riportio rhywbeth a allai fod yn ddim ond yn amheuaeth o gamweithredu.
 
Mae'r Awdurdod wedi ymrwymo i'r safonau uchaf o agoredrwydd, uniondeb ac atebolrwydd. Yn unol â'r ymrwymiad hwnnw rydym yn disgwyl i Aelodau, gweithwyr ac eraill a ddeliwn â hwy sydd â phryderon difrifol am unrhyw agwedd ar waith yr Awdurdod i ddod ymlaen a lleisio'r pryderon hynny. Cydnabyddir y bydd rhaid i'r rhan fwyaf o achosion fynd rhagddynt yn gyfrinachol.
 
Mae'r ddogfen bolisi hon yn ei gwneud hi'n glir y gallwch chi wneud hynny heb ofn erledigaeth, gwahaniaethu diweddarach neu anfantais.
 
Bwriad y Polisi Riportio Cyfrinachol hwn yw annog a galluogi gweithwyr ac Aelodau i godi pryderon difrifol o fewn yr Awdurdod yn hytrach nag anwybyddu'r broblem neu ‘chwythu'r chwiban’ y tu allan.

 

Polisi Adrodd Cyfrinachol Maint: [84 KB] Math o Ffeil: [.pdf]

Remember, Remember 15th November

Remember, Remember 15th November
On 15th November, the first ever Police and Crime Commissioner will be elected.
Click here for more information

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Want to have your say on local policing issues?
Become part of our consultation panel.

Click here to register

Cwynion

Cwynion Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored, gonest a thryloyw.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Hafan