Yn amodol ar rai eithriadau, mae gennych chi'r hawl i gael gwybod os delir gwybodaeth amdanoch ac mae gennych hawl i gael copi o'r wybodaeth honno.
Bydd y Prif Weithredwr ond yn rhoi'r wybodaeth honno os yw ef yn fodlon gyda'ch hunaniaeth. Nid oes yn rhaid iddo roi unrhyw wybodaeth i chi fydd yn datgelu rhywun arall, oni bai bod y person hwnnw'n cytuno.
Os ydych chi'n meddwl y gallai gwybodaeth a ddelir amdanoch ddatgelu person arall, efallai y byddwch am gael cytundeb y person arall i ganiatau i chi dderbyn gwybodaeth o'r fath a'i anfon gyda'ch cais.
Rhaid i'f Prif Weithredwr ymateb i chi o few 40 diwrnod o dderbyn y ffi o £10 a digon o wybodaeth i'ch adnabod chi a'r wybodaeth yr ydych am ei chael.