Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth
Diben ein Cynllun Cyhoeddi yw rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael yn hwylus gennym ni. Drwy hyn golygwn fod y wybodaeth ar gael ar ein gwefan; y gellir ei chael gennym ni ar gais drwy lythyr, e-bost ; y gellir ei brynu gennym neu y gellir ei weld mewn llyfrgell leol.
Mae'r cynllun yn ei hymrwymo i:
-
Gyhoeddi'n rhagweithiol neu ei roi ar gael fel arall fel mater o drefn, wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a ddelir gan yr awdurdod ac sy'n dod o fewn y dosbarthiadau isod.
-
Nodi'r wybodaeth a ddelir gan yr Awdurdod ac sy'n disgyn o fewn y dosbarthiadau isod.
-
Cyhoeddi’n rhagweithiol neu roi ar gael fel arall fel mater o drefn, wybodaeth yn unol â'r datganiadau a gynhwysir o fewn y cynllun hwn.
-
Cynhyrchu a chyhoeddi'r dulliau drwy ba rai y gwneir y wybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn fel y gellir ei hadnabod a'i chyrchu’n hawdd gan aelodau'r cynllun.
-
Adolygu a diweddaru’n gyson y wybodaeth a roddir ar gael gan yr Awdurdod o dan y cynllun hwn.
-
Cynhyrchu rhestr o unrhyw ffioedd a godir am fynediad at wybodaeth a roddir ar gael yn rhagweithiol.
-
Rhoi'r cyhoeddiad hwn ar gael i'r cyhoedd.
Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r wybodaeth a gyhoeddwyd neu y mae'n bwriadu ei gyhoeddi. Os ydych yn chwilio am wybodaeth gwahoddir chi i ystyried y cynllun i weld a ellir ei ddefnyddio i ddarparu'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani.
Gellir gwneud cais am wybodaeth na chaiff ei chadw o fewn y Cynllun hwn i:
Mr Alan Fry
Prif Weithredwr
Awdurdod Heddlu De Cymru
Tŷ Morgannwg
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Dylid gwneud pob cais yn ysgrifenedig.
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ar sut i wneud cais cysylltwch â 01656 869366.