South Wales Police Authority

Datganiad Polisi Hyfforddiant

Datganiad Polisi Hyfforddiant

Mae Awdurdod Heddlu De Cymru (yr Awdurdod ) yn cydnabod bod Hyfforddi a Datblygu Rheolwyr a Staff yn flaenoriaethau pwysig.
 
Nodau hyfforddiant yw sicrhau bod yr holl weithwyr yn derbyn y cymorth angenrheidiol i ddatblygu’r wybodaeth, y sgiliau a’r agwedd sydd eu hangen arnynt i wneud eu swyddi yn effeithiol ac i ddarparu pob cyfle ar gyfer datblygu gyrfa. Mae'r Awdurdod yn hyfforddi er mwyn diwallu anghenion sefydliadol a nodwyd ac i gyflawni anghenion yr unigolyn.
 
Mae ymrwymiadau penodol polisi hyfforddi'r Awdurdod fel a ganlyn:-
 
1. Caiff hyfforddiant ymsefydlu ei roi i bob gweithiwr newydd er mwyn eu cynefino hwy â'r Awdurdod ac i ddangos eu lle o fewn y sefydliad.
 
2. Yn ystod wythnosau cyntaf cyflogaeth bydd pob gweithiwr yn derbyn hyfforddiant trylwyr yn sgiliau sylfaenol eu swydd, yn cynnwys hyfforddiant oddi ar y swydd lle bo'n berthnasol.
 
3. Caiff hyfforddiant ei ddarparu yn gyson i atgyfnerthu a diweddaru dealltwriaeth o amcanion, polisïau a gweithdrefnau'r Awdurdod.
 
4. Lle bo'n ymarferol er mwyn annog bodlonrwydd swydd a chynnal effeithlonrwydd, caiff yr holl weithwyr eu hyfforddi mewn amrywiaeth o sgiliau i ddatblygu hyblygrwydd.
 
5. Caiff pob gweithiwr ei hyfforddi mewn Iechyd a Diogelwch ar gyfer amddiffyn yr unigolyn ac i fodloni anghenion yr Awdurdod a'r gofynion cyfreithiol.
 
6. Caiff addysg bellach cysylltiedig â swydd briodol ei ystyried yn elfen bwysig o ddatblygiad gyrfa a chaiff gweithwyr eu hannog i wneud defnydd llawn o gyfleusterau allanol.
 
7. Caiff Adolygiadau Datblygu Perfformiad rheolaidd eu cynnal, o leiaf un waith y flwyddyn, er mwyn asesu perfformiad a photensial ac i ganfod anghenion hyfforddiant. Bydd pob adolygiad o'r fath yn golygu cyfweliad wyneb yn wyneb a thrafodaeth.
 
8. Caiff cynllunio olyniaeth swydd ei gynnal a rhoddir hyfforddiant priodol i ddatblygu potensial.
 
9. Caiff cofnodion hyfforddiant a phortffolios unigol eu cadw, er mwyn dynodi cyflawniad amcanion ac i gynorthwyo i adnabod anghenion hyfforddiant pellach.
 
10. Cyflawni a chynnal statws Buddsoddwyr mewn Pobl.
 
Yn olaf, cydnabyddir bod y cyfrifoldeb ar gyfer hyfforddi a datblygu yn gorwedd gyda'r Awdurdod a'i Brif Weithredwr a rhaid darparu adnoddau a chyfleusterau digonol i sicrhau y gellir bodloni'r ymrwymiadau a ddisgrifir uchod.

Remember, Remember 15th November

Remember, Remember 15th November
On 15th November, the first ever Police and Crime Commissioner will be elected.
Click here for more information

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Want to have your say on local policing issues?
Become part of our consultation panel.

Click here to register

Newyddion yr Awdurdod

Newyddion yr Awdurdod Ewch at ein hadran newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Awdurdod Heddlu.

Cliciwch yma am y diweddariadau diweddaraf.
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Hafan