Cyffredinol
Mae rhai adrannau o'r wefan hon yn ceisio gwybodaeth bersonol yn wirfoddol, er enghraifft i ateb ein holiadur neu i roi adborth ar ein gwefan. Mae rhoi'r wybodaeth hon yn ddewisol.
Lle mae angen rhoi data personol i'n galluogi i roi gwasanaeth penodol i'r defnyddiwr, caiff y manylion a gesglir eu defnyddio yn unig ar gyfer y diben a nodir.
Ni ddylai plant o dan 16 oed gyflwyno gwybodaeth i'r wefan heb gydsyniad eu rhiant neu ofalwr.
Cywirdeb Gwybodaeth
Nod Awdurdod Heddlu De Cymru yw darparu'r wybodaeth fwyaf cywir sydd ar gael ar ein gwefan. Rhoir y wybodaeth er mwyn gwybodaeth gyffredinol a diddordeb yn unig. Ni fwriedir i ddim ar y wefan hon i fod, na'i ddeall i fod, yn gynnig i fynd i berthynas gytundebol.
Gall y wefan hon newid heb rybudd.
Dolennu
Mae'r wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill nad oes gan Awdurdod Heddlu De Cymru reolaeth drostynt.
Nid yw Awdurdod Heddlu De Cymru yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd am gynnwys gwefannau eraill.
Mae dolenni i wefannau eraill yn eich galluogi chi i ymweld â gwefannau perthynol eraill a all fod o ddiddordeb i chi. Ni fwriedir i ddim ar y wefan hon i fod, na'i ddeall i fod, yn gefnogaeth o unrhyw fath gan Awdurdod Heddlu De Cymru.