South Wales Police Authority

Ymweliadau Annibynnol a’r Ddalfa

Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa

Cynllun Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa
Gyda rhagor na 50,000 o bobl yn cael eu cadw yn nalfeydd yr heddlu yn Ne Cymru bob blwyddyn, mae’n bwysig sicrhau bod eu hawliau cyfreithiol wedi’u hamddiffyn.
 
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cynnal Cynllun Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa, sy’n golygu bod gwirfoddolwyr yn mynd i mewn i ddalfeydd yr heddlu i wirio ar les rhai sy’n cael eu cadw yno a chyflwr y celloedd.
 

Ymwelwyr â’r Ddalfa

 
Gwirfoddolwyr o bob cefndir yw ymwelwyr â’r ddalfa. Drwy wneud y rôl hon maent yn cynorthwyo i sicrhau bod y gwasanaeth heddlu yn atebol i’r cyhoedd.
 
Mae gennym 47 o ymwelwyr sy’n ymweld â 10 o ddalfeydd bob wythnos. Rhennir De Cymru i dair ardal panel sef:
  • Dwyrain yn cwmpasu Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf
  • Gorllewin yn cwmpasu Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Pot Talbot ac Abertawe
 
Mae’n rhaid i’n gwirfoddolwyr fod yn annibynnol ac yn ddiduedd. Felly, ni fydd pobl sydd eisoes yn gweithio o fewn y system cyfiawnder troseddol, megis swyddogion heddlu neu Ynadon sy’n gwasanaethu, yn gallu ymuno.
 
Bydd rhaid iddynt weithredu gyda gonestrwydd llwyr a dilyn Cod Ymddygiad. Ni allant roi cyngor cyfreithiol na gweithredu heb gydsyniad y rhai hynny sydd yn y celloedd.
 

Beth a wna’r Ymwelwyr â’r Ddalfa?

 
Bydd yr Ymwelwyr yn cyrraedd gorsafoedd heddlu mewn parau ar unrhyw adeg ac yn ddirybudd. Rhoddir mynediad ar unwaith i ardal y celloedd.
 
Gyda’u cytundeb, gall yr ymwelwyr siarad â’r rhai hynny a ddelir, gwrando ar unrhyw gwynion a all fod ganddynt am eu triniaeth neu eu hamgylchiadau, ac adrodd ar unrhyw faterion o bryder.
 
Nid yw pam y mae rhywun yn y ddalfa yn rhan o’u swyddogaeth, a byddant bob amser yn parchu cyfrinachedd. Mae eu gwaith hwy’n ymwneud yn unig â thriniaeth a lles y rhai sydd a ddelir tra eu bod yn nalfa’r heddlu.
 
Caiff unrhyw broblemau eu datrys naill ai’n uniongyrchol gyda Rhingyll y dalfa ar adeg yr ymweliad, neu eu hadrodd i’r Awdurdod Heddlu.
 

Pam y Dechreuwyd y Cynllun?

 
Dechreuodd y cynllun yn dilyn adroddiad yr Arglwydd Scarman ar derfysgoedd Brixton ym 1981. Argymhellodd ef drefn annibynnol o archwiliadau dirybudd ar orsafoedd heddlu gan aelodau o’r gymuned leol. Mae’n rhaid i bob Awdurdod Heddlu gael cynllun ymweliadau â’r ddalfa.
 
Mae sefydliad cenedlaethol yn bodoli - yr ICVA (Cymdeithas Ymweliadau Annibynnol â’r Ddalfa) - sy’n gweithredu ar ran yr holl ymwelwyr yn y DU.

Newyddion yr Awdurdod

Newyddion yr Awdurdod
Ewch at ein hadran newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Awdurdod Heddlu.

Cliciwch yma am y diweddariadau diweddaraf.
Hafan