South Wales Police Authority

Sut i Ddod yn Ymwelydd â’r Ddalfa

Sut i Ddod yn Ymwelydd â’r Ddalfa

Gall unrhyw berson dros 18 ac yn bwy, gweithio neu’n astudio o fewn ardal Awdurdod Heddlu De Cymru wneud cais i fod yn Ymwelydd Annibynnol â’r Ddalfa. Dylai Ymwelwyr â'r Ddalfa fod yn bobl annibynnol sy’n gallu gwneud sylwadau diduedd.
 
Caiff pob cais ei ystyried yn ôl ei deilyngdod ei hun. Rhaid i fanylion unrhyw euogfarnau gael eu cynnwys ar y ffurflen. Rhaid hefyd rhoi cydsyniad i gynnal gwiriadau heddlu.
 

Sut i wneud cais

 
O bryd i’w gilydd byddwn yn cynnal ymgyrchoedd recriwtio i gael ymwelwyr newydd. Caiff y rhain eu cyhoeddi yn y cyfryngau lleol ac ar y wefan hon.
 
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn wirfoddolwr gyda ni, gallwch ymuno â'n rhestr wrth gefn. Cliciwch ar y ddolen isod i roi eich manylion, neu cysylltwch â’r Awdurdod yn uniongyrchol ar 01656 869366.
 
 
Annibyniaeth ac integriti’r cynllun fydd y brif ffactor wrth ystyried ceisiadau. Am y rheswm hwn caiff pobl sy’n gweithio yn y system cyfiawnder troseddol eu gwrthod.
 
Anogwn bobl o bob oed a chefndir ethnig i gyfranogi gan fod angen cydbwysedd teg o’r gymuned.
 
 
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Ymgynghori

Ymgynghori Hoffech chi gael dweud eich dweud ar blismona yn Ne Cymru?

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Hafan