South Wales Police Authority

Panel y Gorllewin

Panel y Gorllewin

Custody Visitors
Mae 20 o wirfoddolwyr yn llunio Panel y Gorllewin o Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa, gyda phob un ohonynt yn dod o ardal Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd Port Talbot neu Abertawe.

Mae Panel y Gorllewin yn cwmpasu ystafelloedd y ddalfa mewn pum gorsaf heddlu:
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Castell-nedd
  • Canol Abertawe
  • Y Cocyd
  • Port Talbot

Ymwelir â gorsafoedd Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd unwaith yr wythnos ar gyfartaledd. Ymwelir â Chanol Abertawe, y ddalfa fwyaf yn yr ardal, dair gwaith mewn pythefnos.  Mae gorsafoedd Y Cocyd a Port Talbot yn rhai heb eu dynodi, sy'n golygu y byddant yn cael eu defnyddio dim ond ar adegau prin iawn. Ymwelir â'r rhain unwaith bob pythefnos.

Caiff yr ymwelwyr gefnogaeth Aelod yr Awdurdod Heddlu - Arjan Ali - Cadeirydd y Panel, a Sue Poole, Cydlynydd y Panel.


Proffil Ymwelwyr


Lynne Price

Lynne Price


Ymunodd Lynne Price â'r cynllun ym mis Medi 2005.  Mae'n gweithio fel Gweithiwr Cefnogi gyda Clybiau Plant Cymru, ac mae hi hefyd yn wirfoddolwr ar Gynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid yr Awdurdod.

“Fe ddes yn ymwelydd pan oeddwn yn gweithio'n rhan amser ac roedd gennyf amser rhydd. Clywais am y cynllun gan gyd-ymwelydd, ac roedd gennyf ddiddordeb yn y cynllun.

“Rwyf wedi gweld mai ychydig o aelodau'r cyhoedd sy'n gwybod am y cynllun, ond pan fyddwch yn egluro beth rydych yn ei wneud maent i gyd yn meddwl ei fod yn syniad da.  Rwy’n mwynhau cwrdd â gwahanol ymwelwyr a chael clywed barn wahanol.

Derek George

Derek George

 
Dechreuodd Derek George gyda'r cynllun ym mis Gorffennaf 1999.  Yn ogystal â bod yn Ymwelydd â'r Ddalfa, mae Derek yn aelod o Fwrdd Monitro Annibynnol Carchar y Parc a’r Sefydliad Troseddwyr Ifanc, ac mae hefyd yn Aelod Annibynnol Lles Anifeiliaid gyda'r Awdurdod Heddlu.  Ffermwr a syrfëwr wedi ymddeol ydyw.

“Fe ddes yn ymwelydd gan fod gennyf ddiddordeb mewn sut yr oedd system dalfeydd yr heddlu yn gweithio, a'r awydd i gynorthwyo mewn rhyw fodd y rhai a gedwir yn nalfa'r heddlu.

“Mae'n gynllun defnyddiol oherwydd ei fod yn caniatáu i bobl hyfforddedig, annibynnol gael mynediad i ystafelloedd y ddalfa.

Proffil Panel


Mae'r ddogfen isod yn rhoi proffil o'r ymwelwyr â'r ddalfa, yn seiliedig ar ryw, ethnigrwydd, anabledd a gallu ieithyddol.

Gwybodaeth Monitro Maint: [44 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Eich Awdurdod Heddlu

Eich Awdurdod Heddlu
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn gorff annibynnol, sy'n cynnwys pobl lleol, sy'n plismona eich gwasanaeth heddlu.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
 

Give Us Your Views

Give Us Your Views
What do you think our equality priorities should be for the years ahead?
Click here to take part.
Hafan