Mae 24 o wirfoddolwyr yn rhan o Banel y Dwyrain yr Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa, a phob un ohonynt yn dod o ardal Caerdydd, Bro Morgannwg, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.
Mae Panel y Gogledd yn cwmpasu ystafelloedd y ddalfa mewn pedair gorsaf heddlu:
-
Aberdâr
-
Bae Caerdydd
- Merthyr Tudful
- Pontypridd
- Ton Pentre
Ymwelir â phob gorsaf unwaith yr wythnos ar gyfartaledd, heblaw am Aberdâr sy'n orsaf heb ei dynodi. Golyga hyn y caiff ond ei defnyddio ar achlysuron prin, ac ymwelir â hi bob pedair wythnos.
Cefnogir yr ymwelwyr gan Aelod Awdurdod Heddlu – Anne Abel – sef Cadeirydd y Panel, a Hannah Jenkins, sef Cydlynydd y Panel.
Gwirfoddolwyr
Rydym yn ffodus mai nifer fechan o ymwelwyr sy'n gadael y cynllun. Mae nifer o'r ymwelwyr wedi bod ynghlwm â'r cynllun ers llawer o flynyddoedd.
Fel Awdurdod Heddlu, rydym yn ddiolchgar i bob un o'n hymwelwyr ymroddedig sy'n rhan o'r cynllun hwn.
Proffiliau Ymwelwyr
Paul Jones

Dechreuodd Paul Jones gyda'r cynllun ymweld â'r ddalfa ym mis Hydref 2001. Mae'n gweithio'n llawn amser i Gymdeithas Tai, a bydd yn trefnu ymweliadau o amgylch ei ymrwymiadau. Mae hefyd yn wirfoddolwr gyda Chynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid yr Awdurdod Heddlu ac mae'n Gadeirydd ei gyfarfod PACT lleol.
“Deuthum yn rhan yn y cynllun oherwydd ei fod yn swnio'n wahanol ac yn ddiddorol, ac roeddwn am wneud rhywbeth oedd o fudd i'r gymuned. Mae'r cynllun yn rhoi ymwybyddiaeth i'r cyhoedd bod pobl sy'n cael eu cadw yn y ddalfa yn cael eu trin yn iawn. Mae bod yn ymwelydd yn ddiddorol dros ben - mae'n rhywbeth cwbl wahanol.
“Y peth gorau am y cynllun yw'r gallu i roi tawelwch meddwl i'r cymunedau a'r Awdurdod Heddlu bod unrhyw un sy'n cael ei gadw yn y ddalfa yn cael ei ddal yn unol â safonau cytunedig.
“Teimlaf fod y cynllun yn cynorthwyo swyddogion Heddlu De Cymru i gynorthwyo i godi safonau ystafelloedd y ddalfa drwy ddarparu rôl ‘cyfaill beirniadol '.
Colin Edwards
Ymunodd Colin Edwards â'r cynllun ym mis Mai 2005, ac mae'n gweithio'n llawn amser fel ymgynghorydd gwerthiant.
“Darllenais am y cynllun yn y papur lleol, a meddwl ei fod yn swnio'n ddiddorol. Gwnes gais i fod yn wirfoddolwr er mwyn gwneud rhywbeth gwerth chweil ac sydd o fudd i'r gymuned.
“Gallai unrhyw un gael ei arestio a'i gadw yn nalfa'r heddlu, felly drwy gael cynllun fel hwn gall y gymuned fod yn dawel ei meddwl bod pobl yn cael eu trin yn dda ac yn deg. Drwy fod yn annibynnol mae'n rhoi hyder i'r cyhoedd."
Proffil Panel
Mae'r ddogfen isod yn rhoi proffil o'r ymwelwyr â'r ddalfa, yn seiliedig ar ryw, ethnigrwydd, anabledd a gallu ieithyddol.