South Wales Police Authority

Panel y De

Panel y De

Custody Visitors
Mae 16 gwirfoddolwr ar Banel y De yr Ymwelwyr Annibynnol â'r Ddalfa ac maent i gyd yn dod o ardal Caerdydd a Bro Morgannwg.


Cefnogir yr ymwelwyr gan Aelod Awdurdod Heddlu - Moawia Bin-Sufyan - Cadeirydd y Panel, a Sue Poole, Cydlynydd y Panel.

Gwirfoddolwyr


Mae'r isod yn dangos pa mor hir y bu'r ymwelwyr yn ymwneud â'r cynllun:
0 – 3 blynedd – 11
3 – 6 mlynedd – 1
6 – 9 mlynedd – 2
9 – 12 mlynedd - 1
Dros 12 mlynedd - 1

Fel Awdurdod Heddlu rydym yn ddiolchgar i'n holl wirfoddolwyr ymroddedig sy'n rhan o'r cynllun hwn.

Cofnodion Ymweliadau


Rhwng mis Ebrill 2008 a mis Mawrth 2009, cwblhaodd yr ymwelwyr 199 ymweliad ym Mhanel y De gyda'r manylion fel a ganlyn:
Y Barri - 50
Canol Caerdydd - 45
Y Tyllgoed - 48
Tredelerch - 45
Llanisien - 5
Y Rhath - 6

Gwelodd yr ymwelwyr gyfanswm o 503 yn cael eu cadw yn cynnwys 433 o oedolyn a 76 o ieuenctid.

Proffiliau Ymwelwyr


Adrian Clark

Ymunodd Adrian Clark â'r cynllun ym mis Mehefin 2008.
“Deuthum yn ymwelydd â'r ddalfa oherwydd fy mod yn wirioneddol am wneud gwaith gwirfoddol. Oherwydd ymrwymiadau teuluol roedd angen i mi ddarganfod rhywbeth oedd yn weddol hyblyg ond a fyddai hefyd yn caniatáu i mi gyfarfod gwahanol bobl ac yn rheolaidd.

“Mae ein rôl yn bwysig oherwydd gall y cyhoedd weld ein bod yn ddiduedd ac yno i sicrhau y cedwir at hawliau unigolion. Byddwn yn gobeithio y byddai'r cyhoedd yn ein gweld fel rhyw fath o gyfrwng tawelwch meddwl pe bai hwy neu aelod o'u teulu yn y ddalfa byddent yn gallu bod yn hyderus bod proses eisoes ar waith i sicrhau bod lles y rhai a gedwir o'r pwys mwyaf.

Proffil Panel


Mae'r ddogfen isod yn rhoi proffil o'r ymwelwyr â'r ddalfa, yn seiliedig ar ryw, ethnigrwydd, anabledd a gallu ieithyddol.

Gwybodaeth Monitro Maint: [44 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Newyddion yr Awdurdod

Newyddion yr Awdurdod
Ewch at ein hadran newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Awdurdod Heddlu.

Cliciwch yma am y diweddariadau diweddaraf.

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.
Hafan