Enillwyr 2008
Enillydd Cyffredinol ac Enillydd Castell-nedd Port Talbot - Saifur Rahman
Saifur Rahman, am ei waith yn integreiddio cymunedau Port Talbot. Mae’n Ysgrifennydd y Mosg ym Mhort Talbot ac yn Gadeirydd Clwb Pêl-droed Teigrod Port Talbot. Dechreuwyd y clwb yn wreiddiol ar gyfer pobl o’r gymuned Bengali leol.
Fodd bynnag, erbyn hyn mae wedi ehangu i gynnwys pobl o bob cenedl, crefydd a diwylliant. Mae Saifur dros y blynyddoedd wedi darparu dolen amhrisiadwy gyda phobl ifanc yn ei gymuned a’r heddlu. Mae’n sicrhau bod yn gymuned Fwslimaidd ym Mhort Talbot yn integreiddio gyda phob grwp ac mae’n annog cyswllt a thrafodaeth agored.
Enillydd Pen-y-bont ar Ogwr - Mark Thomas
Mark Thomas yw cydlynydd Tîm Gweinidogion y Stryd ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy’n gweld pobl yn cynorthwyo’r heddlu yn nhrefi prysur y Fwrdeistref ar nosweithiau Gwener a Sadwrn.
Sefydlodd y tîm sydd, drwy ei weledigaeth a’i arweiniad wedi dod yn adnodd buddiol ar gyfer yr heddlu drwy fod yn llygaid a chlustiau yng nghanol y trefi.
Enillydd Caerdydd - Steve Khaireh
Bu Steve Khaireh yn asgwrn cefn y gymuned yn Nhre Bute am sawl blwyddyn. Er bod ei gyflogaeth daledig yn gysylltiedig â gweithio gyda’r gymuned mae’n mynd y tu hwnt i ofynion ei swydd.
Ar benwythnosau mae gofalu am hyd at 11 tîm pêl-droed o’r ardal o bob grwp oedran. Mae’n hyrwyddo gwaith y Pafiliwn Ieuenctid ac mae wedi gweithio i dreiddio i mewn i gangiau ac ailgyfeirio'r rhai hynny sy’n gysylltiedig i feysydd eraill.
Enillydd Merthyr Tudful - Yvonne Wood
Mae Yvonne Wood yn gysylltiedig â’r cyngor cymuned lleol yn ardal Trelewis a Bedlinog.
Mae hefyd yn ymwneud â Merthyr Tudful Ddiogelach, ac yn cynorthwyo dioddefwyr troseddu lleol, yn cydlynu gyda’r heddlu lleol gan sicrhau y cyfeirir aelodau diamddiffyn y gymuned at y bobl gywir.
Enillydd Rhondda Cynon Taf - Derek Bateman
Derek Bateman yw Cadeirydd Cymdeithas Lleihau Troseddau Rhondda Cynon Taf, a chyn hynny roedd yn gadeirydd Panel Atal Troseddu Taf Elai am bum mlynedd.
Cynorthwyodd ei waith i gyflwyno sawl prosiect yn cynnwys ReCTify, sy’n darparu mesurau diogelwch i gartrefi'r mwyaf diamddiffyn.
Enillydd Abertawe - Donald Paddison
Bu Donald Paddison yn aelod Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Abertawe am dros 10 mlynedd a bu’n aelod yn ardal Ravenhill am dros 20 mlynedd, gan gynorthwyo gyda materion diogelwch cymunedol.
Mae’n gweithio gyda’r heddlu i helpu pobl a chymunedau i deimlo’n ddiogel.
Enillydd Bro Morgannwg - Peter Arthur
Mae Peter Arthur yn rhan o’r rhaglen Gwirfoddolwyr Wedi Ymddeol a Hyn, a daeth yn gydlynydd i gynllun Gwarchod Cymdogaeth yn Ninas Powys yn 2002.
Yn 2008 fe’i hetholwyd yn Gadeirydd Cymdeithas Gwarchod Cymdogaeth Bro Morgannwg. Drwy ei weithgaredd mae wedi helpu i gynnal y Gymdeithas.
Enillwyr Gwirfoddolwyr Ifanc - Rosanna Jones
Mae Rosanna Jones yn helpu i gadw pobl ifanc oddi ar y strydoedd a rhoi lle diogel a chyfeillgar iddynt dreulio amser yng nghwmni ei gilydd yn yr Hideout ym Mhort Talbot.
Mae hefyd yn helpu i gynnal gweithdai ar bynciau megis ymddygiad gwrthgymdeithasol, difrod troseddol ac effaith cyffuriau ac alcohol. Bu’n gwirfoddoli ers mis Hydref 2005.
Enillwyr Gwirfoddolwyr Ifanc - Rhys Jones Davies
Bu Rhys Jones Davies yn ymwneud yn frwd ym mhrosiect PUPIL (Disgyblion yn Deall Problemau yn eu Cymdogaeth) ers yn 13 oed. Mae wedi cyfranogi mewn ystod o fentrau diogelwch cymunedol.
Bu’n aelod o Banel Atal Troseddu Ieuenctid Cwm Cynon er pan oedd yn 16 oed ac yn ddiweddar fe’i hetholwyd yn Gadeirydd y panel.
Enillwyr Tîm Gwirfoddolwyr – Cynllun Mentora Ieuenctid Take 2
Mae’r cynllun mentora ieuenctid Take 2 yn cynnig cefnogaeth un i un i bobl ifanc, rhwng 10 a 18 oed, sydd wedi eu hallgau'n gymdeithasol ym Merthyr Tudful.
Mae mentoriaid gwirfoddol rhwng 19 a 90 oed yn gwrando ar y bobl ifanc ac yn gweithredu fel patrwm cadarnhaol gan eu helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yn eu bywydau. Bydd rhwng 12 ac 20 o wirfoddolwyr yn gweithio gyda’r bobl ifanc ar unrhyw un adeg.