Mae’r Cynllun Ymweliadau Lles Anifeiliaid yn rhoi gwiriad annibynnol ar gyflwr a lles cwn a cheffylau’r heddlu.
Bydd aelodau’r cyhoedd yn wirfoddol yn cynnal gwiriadau wythnosol ar Adran Cwn a Cheffylau Heddlu De Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.
Caiff y gwirfoddolwyr eu dewis o blith aelodau’r Paneli Ymweliadau â'r Ddalfa, a benodir yn dilyn hysbysiad cyhoeddus.
Pam ei fod yn Bwysig?
Dechreuodd y Cynllun yn 2001 yn dilyn marwolaeth ci heddlu mewn llu gwahanol. Amlygodd y gwersi a ddysgwyd yr angen am gynllun tryloyw ac atebol i roi hyder i’r cyhoedd ynghylch y ffordd y caiff anifeiliaid yr heddlu eu hyfforddi a sut y gofalir amdanynt.
Ers hynny bu’n hanfodol i sicrhau diogelwch a lles anifeiliaid y Llu.
Beth a wna'r Ymwelwyr?
Gwneir gwiriadau ar gyflwr y cenelau, stablau, faniau cwn yr heddlu a’r lorïau ceffylau yn ogystal â thriniaeth yr anifeiliaid.
Hyfforddir yr ymwelwyr gan filfeddyg lleol, yr RSPCA a Swyddogion o Adran Cwn a Cheffylau a’r Awdurdod Heddlu.
Cyflwynir adroddiadau gan yr ymwelwyr i’r Awdurdod.
A yw'r Cynllun yn Effeithiol?
Rhoddodd yr RSPCA ei gymeradwyaeth i’r Cynllun drwy ailddechrau cyfrannu cwn yn rhoddion. Cyn hyn roedd cyfraniadau wedi eu hatal i bob llu yn dilyn marwolaeth ci gwaith mewn llu arall.
Cyflawnwyd hyn yn rhannol drwy adroddiadau canmoliaethus yr ymwelwyr, gan ei fod yn profi bod y trefniadau ar gyfer hyfforddi a thrafod yr anifeiliaid yn gadarn, trugarog a thryloyw.
Canllawiau
Er mwyn gweld y canllawiau llawn ar gyfer y cynllun cliciwch ar y ddogfen isod.