Derbyniwyd 115 cais am gyfraniad o Gronfa Deddf Eiddo’r Heddlu yn 2008.
Y thema ar gyfer y grantiau oedd cynorthwyo i wrthsefyll ymddygiad gwrthgymdeithasol drwy ddarparu cyfleusterau /cymorth ar gyfer pobl ifanc. Y derbynwyr llwyddiannus oedd:
PEN-Y-BONT AR OGWR
COLEG PEN-Y-BONT AR OGWR - £200 - ar gyfer gweithgareddau wedi’u canolbwyntio ar y gymuned i helpu i adeiladu cysylltiadau rhwng pobl ifanc a’r henoed.
Trosolwg cryno a geirdaon
CYNLLUN MENTORA A MWY Y BONT - £300 – i brynu camera fideo ar gyfer pobl ifanc sydd wedi eu hallgau'n gymdeithasol i’w ddefnyddio yn ystod gweithgareddau mentora
POBL YN GYNTAF PEN-Y-BONT AR OGWR - £200 – i ariannu prosiect celfyddydau gweledol ar gyfer pobl ag anableddau dysgu.
CHRISTIAN YOUTH OUTREACH - £200 – darparu offer ar gyfer Canolfan Ieuenctid Hard Rock.
CYFEILLION BRYNHEULOG - £200 – i brynu cist storio ar gyfer ailgylchu beiciau.
CLWB NEWYDDION DA - £200 – darparu offer a gemau ar gyfer cyfarfod wythnosol plant
TRAFNIDIAETH GYMUNEDOL DYFFRYN LLYNFI - £400 - i hyfforddi gyrwyr gwirfoddol, i gynorthwyo i ddarparu gwasanaeth bws ar gyfer pobl yn y gymuned.
SAMARIAID - £200 – i gynorthwyo gydag ymgyrch ‘Feet on the Street’ sydd â'r nod o gysylltu a chyfathrebu gyda phobl ifanc
CANOLFAN FYWYD GYMUNEDOL WILDMILL - £200 – i brynu offer i ddechrau clwb gymnasteg ar gyfer pobl ifanc.
CAERDYDD
BULLIESOUT - £500 - i ddarparu dwylo, paent a chardiau barddoniaeth i blant yn ystod wythnos gwrth-fwlio yng Nghaerdydd. Bydd yr arian yn talu am y pecynnau i’w hatgoffa am y diwrnod.
THE DOME, CANOLFAN IEUENCTID PENTWYN - £400 - Caiff y grant ei defnyddio i sefydlu cwrs ymwybyddiaeth gwrthgymdeithasol 10 wythnos ar gyfer pobl ifanc. Bydd hyn yn golygu bod y bobl ifanc yn dysgu am effeithiau negyddol ymddygiad gwrthgymdeithasol.
MINISTRY OF LIFE - £350 – Mae’n rhaglen digwyddiadau ieuenctid sy’n gweithredu'n fisol. Mae caffi ieuenctid i'w gael a gwahoddir artistiaid gwadd i berfformio 'beat boxing', canu, dawnsio, rapio, gwaith DJ a chelfyddydau stryd eraill. Caiff yr arian ei ddefnyddio i gynorthwyo’r nosweithiau.
CLWB SADWRN - £300 – I wella adnoddau ac ehangu'r dewisiadau sydd ar gael i ymestyn y cyfleoedd sy’n bodoli a phrynu gemau ac ati.
KARATE KYOKUSHINKAI CAERDYDD - £200 - Er mwyn cael set o 30 o siacedi ymarfer i’w gwisgo gan ein myfyrwyr pan yn cynrychioli neu’n cefnogi’r clwb.
CLWB PÊL-DROED PENTWYN DYNAMOS - £200 - Cyfleusterau hyfforddi - rhwydi pêl-droed, cynorthwyon hyfforddi, ac ati.
CLWB PÊL-DROED WHITCHURCH RANGERS - £200 - Cyfrannu tuag at siacedi glaw ar gyfer y plant a chynorthwyo i dalu am gyfleusterau hyfforddi gaeaf.
MERTHYR TUDFUL
CYMDEITHAS HAMDDEN BEDLINOG - £750 - i gynorthwyo i dalu costau tiwtor a llogi neuadd ar gyfer grwp dawns lleol, sydd â 22 o bobl ifanc.
LINKING HANDS ACROSS THE WORLD - £725 – i ddatblygu ymhellach gysylltiadau a chroesawu parti o ddysgwyr ac addysgwyr o Ysgol Eqinisweni ym mis Gorffennaf 2009.
CLWB RYGBI MINI ac IAU DOWLAIS - £675 - i brynu offer hyfforddi newydd.
CASTELL-NEDD PORT TALBOT
CYMDEITHAS CYFEILLION A RHIENI CROESERW - £195 – i brynu gemau a gweithgareddau ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n mynychu ein clwb.
CANOLFAN CERDDORIAETH DYFFRYN DULAIS - £195 – i brynu offer disgo i gynnal disgos ar gyfer rhai o dan 14 oed.
CLWB BOCSIO FAIRFIELD - £195 – i brynu rhagor o offer bocsio gan fod ein haelodau yn tyfu.
FFRINDIAU’R CABIN - £195 – i dalu am wasanaethau gweithwyr ieuenctid i ddod â’r cyfleuster hwn i gategori gwasanaeth ieuenctid proffesiynol, Caiff hefyd ei ddefnyddio i addurno ac adnewyddu peth offer trydanol.
CLWB PÊL-DROED CYBIAU GLYN-NEDD - £195 - i sicrhau ariannu tuag at gostau lleoliad hyfforddi sy’n daladwy ar gyfer y tymor hwn.
THE HIDEOUT - £195 - i helpu i ariannu gweithdai ar gyffuriau, alcohol, ymddygiad gwrthgymdeithasol a graffiti.
CLWB BECHGYN A MERCHED CASTELL-NEDD - £195 - i brynu nwyddau celf a chrefft ar gyfer gweithdai ac i ddarparu gweithdai a hwylusir sy’n amlygu peryglon cysylltiedig â chyffuriau a throseddau ceir.
FFORWM IEUENCTID DAN 16 DWYRAIN CASTELL NEDD - £195 - i gludo beiciau a chyfranogwyr i leoliadau’r tu allan i’r gymuned.
THEATR OPERA AMATURIAID PORT TALBOT A’R CYLCH - £195 - i brynu allweddellau cludadwy addas i’w ddefnyddio ar gyfer ein digwyddiadau cymunedol.
SNAC (CLWB GWEITHGAREDDAU ANGHENION ARBENNIG ) - £195 - I ddarparu offer chwaraeon a fydd yn ysgogi ac yn cyfoethogi lles pobl ifanc sy’n mynychu’r ganolfan.
YSGOL GYMUNED FELINDRE - £195 - i brynu llestri, ailwampio bwrdd pwl a chostau sefydlu Grwp Ffrindiau.
RHONDDA CYNON TAF
PROSIECT IEUENCTID A CHWARAE TY ALISON - £268 - Mae pobl ifanc wedi mynegi diddordeb mewn cynllunio murlun a bydd y grant hwn yn ein galluogi i gynnal prosiect gydag artist lleol i gynllunio a phaentio murlun ym mhrif ran y gegin.
ADFYWIO CYMUNED BLAENLLECHAU - £268 - i barhau i redeg ei wasanaeth bws mini i ddarparu dull cludiant diogel yn ôl a blaen i'w ddarpariaeth galw heibio.
CLWB IEUENCTID Y CYMER - £268 - Caiff yr arian ei ddefnyddio i hyfforddi aelodau’r pwyllgor mewn gwaith adeiladu tîm, gan wneud penderfyniadau a chreu democratiaeth.
ADRAN IEUENCTID YR EGLWYS CWM CYNON - £268 – i brynu’r offer amlgyfrwng y mae ei angen arnom i foderneiddio ein dulliau addysgu.
GOING4GOLD - £268 - i gwblhau ein Gwobr Aur y flwyddyn nesaf gan ymweld â De Affrica am 1 mis a fydd yn golygu gwaith gwirfoddol mewn cartrefi i blant amddifad.
GRWP TROSEDD a DIOGELWCH MEISGYN - £268 - i wneud prosiect fideo gyda phobl ifanc a fydd yn canolbwyntio ar y canlyniadau fydd pobl ifanc yn eu hwynebu os byddant yn cael eu dal yn cyflawni tramgwydd troseddol.
CANOLFAN GYMUNEDOL PENDERYN - £268 – i brynu matiau ar gyfer myfyrwyr y celfyddydau milwrol i alluogi’r tiwtor i gynnal ei gwrs.
CLWB IEUENCTID POWERHOUSE - £268 – i brynu offer gemau newydd.
ABERTAWE
GRWP GWEITHREDU IEUENCTID HAFOD - £435 - i ddarparu offer a lluniaeth ar gyfer cynllun peilot clwb ieuenctid a gynhelir gyda’r nos.
CLWB DYDD LLUN - £435 – i ddod ag offer newydd i gadw diddordeb ieuenctid yn wythnosol a chadw tua 50 o blant bant oddi ar strydoedd Blaenymaes.
CLWB IEUENCTID GLANYRAFON - £435 - i brynu technoleg newydd gan alluogi rhagor o unigolion i gymryd rhan mewn gweithgareddau o fewn gofod cyfyngedig,
CLWB PÊL-DROED IEUENCTID TRALLWN - £435 - i brynu cit pêl-droed (bechgyn a merched) a chynorthwyon hyfforddi.
CLWB IEUENCTID BIRCHGROVE - £200 - i brynu offer chwaraeon - ar hyn o bryd mae’r plant/ieuenctid yn dod â'u hoffer eu hunain os ydynt yn dymuno chware unrhyw chwaraeon.
JR GROUNDFORCE - £200 – i dalu am fysiau i fynd â phlant ar deithiau undydd.
BRO MORGANNWG
GRWP BOOSTER LLANTWIT - £700 - i gefnogi rhaglen a gynlluniwyd i ysgogi disgyblion, i’w harwain yn ôl ar y llwybr cywir ac adeiladu hunan barch.
YSGOL SANT CYRES - £700 – i ddechrau’r wobr Dug Caeredin ar gyfer y grwp ac Ymgyrch Clean Swoop – prosiect cymunedol i glirio sbwriel a graffiti ar lwybrau i’r ysgol.
CLWB NOFIO ANABL BEAVERS Y BARRI - £375 – i helpu i dalu costau’r clwb i gynnal gala y flwyddyn nesaf ar gyfer y clwb a chlybiau eraill a wahoddir i ddod iddi ac ymuno.
CLWB RYGBI MINI AC IAU PENARTH - £375 - i brynu cit chwarae i’r grwp o dan 10 oed (mae'r cit presennol yn hen a di-raen).