South Wales Police Authority

Cael Dweud Eich Dweud yng Nghyfarfodydd

Cael Dweud Eich Dweud yng Nghyfarfodydd Awdurdod Heddlu

Mae cynnwys y cyhoedd ac atebolrwydd cyhoeddus yn hollbwysig i Awdurdod Heddlu De Cymru.
 
Mae cyfarfodydd yr Awdurdod Heddlu yn agored i'r cyhoedd i wrando ar drafodaethau. Ond a wyddech chi y gallwch hefyd ofyn cwestiynau.
 

Sut allaf gael dweud fy nweud?

 
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi dyfeisio cynllun sy'n caniatáu i aelodau'r cyhoedd annerch cyfarfodydd o'r Awdurdod llawn a:
  • Gwneud datganiadau
  • Gofyn cwestiynau
  • Cyflwyno deisebau
  • Arwain dirprwyaethau
 
Nid yw hyn yn gymwys i gyfarfodydd grwpiau'r Awdurdod.
 
I gael dweud eich dweud mae’n rhaid i chi gysylltu â Phrif Weithredwr yr Awdurdod Heddlu o leiaf dri diwrnod gwaith llawn cyn y cyfarfod drwy’r manylion cyswllt a geir isod. Rhaid rhoi manylion llawn o’r hyn yr ydych am ei ofyn neu ei gyflwyno ar yr adeg yma. Cliciwch yma i weld dyddiadau ein cyfarfodydd yn y dyfodol.

Dylid hefyd rhoi rhybudd ymlaen llaw os ydych am annerch yr Awdurdod yn Gymraeg, fel y gellir gwneud trefniadau ar gyfer cyfieithu.
 
Mae croeso i chi siarad ar unrhyw fater sy'n dod o fewn cylch gwaith yr Awdurdod Heddlu, ac eithrio unrhyw faterion sydd eisoes yn gwyn ffurfiol neu faterion sy'n destun achos cyfreithiol.
 

Beth sy'n digwydd yn y cyfarfod?

 
Yr amser a glustnodir ym mhob cyfarfod Awdurdod i’r cyhoedd gael dweud eu dweud yw dim mwy na 30 munud.
 
Caiff bob siaradwr ddim mwy na pum munud i annerch y cyfarfod. Rhaid dilyn unrhyw gyfarwyddyd penodol gan y Cadeirydd.
 
Pan fyddwch yn cyrraedd cyfarfod rhaid i chi wneud eich hun yn hysbys i'r Prif Weithredwr, neu aelod o staff. Byddant hwy wedyn yn esbonio'r weithdrefn ar gyfer annerch yr Awdurdod.
 
Unwaith y byddwch wedi codi'r mater/cwestiwn bydd yr Awdurdod Heddlu yn penderfynu pa gamau, os o gwbl, i'w cymryd.
 
Os bydd yr Awdurdod yn penderfynu bod angen i'r mater gael ei drafod mewn cyfarfod diweddarach, gallwch enwebu Aelod i siarad ar y mater bryd hynny.
 
Os bydd y mater yn cyfeirio at blismona gweithredol, mae'n debygol y bydd yr Awdurdod yn ei gyfeirio i'r Prif Gwnstabl.
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Cyfarfodydd yr Awdurdod Heddlu

Cyfarfodydd yr Awdurdod Heddlu Dewch i wybod pryd y cynhelir cyfarfodydd nesaf yr Awdurdod Heddlu.

Cliciwch yma am fanylion.
Hafan