Rydym am roi cynifer o gyfleoedd i chi a phosibl i chwarae rhan mewn plismona lleol.
Mae eich barn a’ch atebion yn cynorthwyo i lunio plismona yn eich ardal leol, ac ar draws De Cymru.
Mae nifer o ffyrdd y gallwch ddweud eich dweud a dyma rai ohonynt:
-
Cwestiwn y mis - bob mis gofynnwn gwestiwn gwahanol i chi ar agweddau ar y gwasanaeth heddlu
-
Sioeau Teithiol - ddwywaith y flwyddyn byddwn yn dod i ganolfannau siopa ac archfarchnadoedd yn eich ardal i ddarganfod beth yw eich barn am yr heddlu. Cadwch lygad ar y calendr yn yr adran ymgynghori i weld pryd y byddwn yn eich ardal chi nesaf.
-
Holiaduron - drwy gydol y flwyddyn byddwn yn anfon holiaduron allan ar wahanol bynciau, megis blaenoriaethau plismona a’r gyllideb.
Cofrestrwch i gyfranogi
Rydym yn cadw rhestr o bobl sy’n dymuno cymryd rhan yn ei harolygon. Anfonir arolygon a diweddariadau ar blismona iddynt yn uniongyrchol.
Os hoffech fod yn rhan o hyn cliciwch ar y ddolen isod a rhowch eich manylion.
Cliciwch yma i gofrestru