Mae rheoli risgiau yn effeithiol yn helpu i gyflawni amcanion, yn cynyddu ansawdd ac effeithlonrwydd sefydliad i’r eithaf, ac yn cynnal ei enw da.
Gall hefyd helpu i adnabod cryfderau, gwendidau a chyfleoedd ym musnes sefydliad o ddydd i ddydd ac yn y tymor hirach.
Rheoli risgiau yw’r broses o:
-
Adnabod risgiau i gyflawni nodau ac amcanion.
-
Gwerthuso canlyniad posibl y risgiau hyn.
-
Penderfynu ar fesurau rheoli priodol yn erbyn risgiau a’u gweithredu.
-
Ystyried y ffyrdd mwyaf effeithiol o fonitro a lliniaru risgiau.
Diffiniad o Risg
O fewn Awdurdod Heddlu De Cymru risg yw canlyniad digwyddiad, a fyddai pe bai’n cael ei achosi:
-
Yn effeithio ar allu’r Awdurdod i gyflawni ei weledigaeth a’i amcanion, naill ai yn y tymor byr neu’r hir dymor.
-
Yn arwain at rwymedigaethau ariannol.
-
Yn gwneud niwed i enw da yr Awdurdod a’r Llu.
-
Yn lleihau hyder mewn plismona yn Ne Cymru.
Cliciwch ar y ddogfen isod i weld y Strategaeth a’r Polisi Rheoli Risgiau llawn.