Mae’r asesiad o Ddefnydd yr Heddlu o Adnoddau (PURE) yn galluogi archwilwyr i lunio barn ynglyn â threfniadau'r Awdurdod Heddlu a’r Llu i sicrhau defnydd effeithiol o adnoddau ar draws y pum thema o adroddiadau ariannol, rheolaeth ariannol, sefyllfa ariannol, rheolaeth fewnol a gwerth am arian.
Gwneir yr asesiad gan Swyddfa Archwilio Cymru.
Nod yr adolygiad yw rhoi asesiad o’r trefniadau ar gyfer rheoli adnoddau, gan gynnwys fframweithiau cyllid ac atebolrwydd cyhoeddus.
Mae pob thema’n cynnwys nifer o Brif Lwybrau Ymholi (KLOEs) a ffocws a thystiolaeth meysydd archwilio. Hefyd ceir disgrifiadau o berfformiad yn erbyn pob un o’r prif lwybrau ymholi sy’n dangos perfformiad ar lefel 2, 3 a 4. Mae’r rhain yn cyfateb i’r dyfarniadau canlynol:
-
1 – yn is na’r safonau sy’n ofynnol: perfformiad annigonol;
-
2 – yn cyrraedd y safonau sy’n ofynnol yn unig: perfformiad digonol;
-
3 – yn gyson uwchlaw’r safonau sy’n ofynnol – perfformio’n dda; a
-
4 – llawer uwch na’r safonau gofynnol – perfformio’n gryf.
Cliciwch ar y ddogfen isod i ddarllen asesiad llawn Awdurdod Heddlu De Cymru ar gyfer 2007-08.