Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cydweithio ag Archwilwyr Mewnol ac Allanol i sicrhau ein bod yn effeithlon.
Archwilwyr Mewnol
Deloitte sy’n gweithredu fel archwilwyr mewnol ar gyfer Awdurdod Heddlu De Cymru.
Maent yn darparu adolygiadau a diweddariadau ynglyn â gwahanol feysydd o’n gwaith, gyda barn broffesiynol ynghylch effeithiolrwydd y fframweithiau rheoli risgiau, llywodraethu a rheoli.
Cyflwynir adroddiadau rheolaidd i’r Grwp Archwilio a Chraffu i’w hystyried, yn cynnig gwahanol lefelau o addewidion ac argymhellion er gwella.
Archwilwyr Allanol
Swyddfa Archwilio Cymru yw’r archwilydd allanol ar gyfer Awdurdod Heddlu De Cymru.
Eu rôl yw monitro ein gwariant, i sicrhau ein bod yn atebol ac yn cynnig y gwerth gorau posibl am arian. Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn cynnal arolygiadau rheolaidd. Bob blwyddyn, darperir Llythyr Archwilio Blynyddol.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ynglyn â Swyddfa Archwilio Cymru.