Beth yw 'Stopio a rhoi Cyfrif'?
'Stopio' neu 'Stopio a rhoi Cyfrif’ yw pan fydd Swyddog Heddlu neu Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH) yn eich stopio ac yn gofyn i chi roi cyfrif amdanoch eich hun.
Er enghraifft gallent ofyn i chi beth ydych yn ei wneud, pam yr ydych mewn ardal benodol, i ble rydych chi’n mynd, neu beth rydych yn ei gario.
Fodd bynnag, nid yw sgyrsiau cyffredinol gyda Swyddog yn cyfrif fel stopio, megis pan fyddant yn chwilio am dystion, yn gofyn i chi am wybodaeth gyffredinol am ddigwyddiad neu yn rhoi cyfarwyddiadau i chi.
Mae’r tabl isod yn dangos pryd fyddech chi’n derbyn derbynneb/ffurflen a phryd na fyddech chi eu derbyn.