Stopio a Chwilio - Gwybod Eich Hawliau
Mae pwerau Stopio a Rhoi Cyfrif a Stopio a Chwilio yn caniatáu i’r heddlu wrthsefyll troseddau stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddau mwy difrifol rhag digwydd.
‘
Stopio’ yw pan fydd swyddog yn gofyn i rywun mewn man cyhoeddus i roi cyfrif am eu gweithredoedd, eu hymddygiad neu bethau yn eu meddiant.
‘
Stopio a chwilio’ yw pan gewch eich chwilio os bydd swyddogion yn amau eich bod yn cario cyffuriau, arfau, eiddo a ddygwyd neu eitemau allai gael eu defnyddio i gyflawni trosedd.
Stopio!
Yn rhai ardaloedd mae’r heddlu yn newid eu ffordd y maent yn cofnodi beth sy’n digwydd pan fyddant yn stopio pobl ac yn eu holi.
O fis Rhagfyr 2008, os bydd yr heddlu yn eich stopio chi yng Nghaerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Abertawe neu Bro Morgannwg ac yn gofyn i chi roi cyfrif am eich hunan byddwch yn cael derbynneb neu gerdyn fel eich bod yn gwybod pwy wnaeth eich stopio.
Ni fydd yr heddlu yn llenwi ffurflen ond byddant yn gofyn i chi beth yw eich cefndir ethnig. Caiff y wybodaeth hon ei monitro i gynorthwyo i sicrhau bod yr heddlu yn defnyddio stopio a chwilio yn deg.
Cofiwch! Os cewch eich chwilio dylech o hyd dderbyn ffurflen fanwl.
Bydd y tudalennau yn yr adran hon yn cynorthwyo i ddarparu rhagor o wybodaeth am eich hawliau os cewch eich stopio neu eich stopio a’ch chwilio gan yr heddlu.