Mae pwerau Stopio a Rhoi Cyfrif a Stopio a Chwilio yn caniatáu i’r heddlu wrthsefyll troseddau stryd ac ymddygiad gwrthgymdeithasol ac atal troseddau mwy difrifol rhag digwydd.
‘
Stopio’ yw pan fydd swyddog yn gofyn i rywun mewn man cyhoeddus i roi cyfrif am eu gweithredoedd, eu hymddygiad neu bethau yn eu meddiant.
‘
Stopio a chwilio’ yw pan gewch eich chwilio os bydd swyddogion yn amau eich bod yn cario cyffuriau, arfau, eiddo a ddygwyd neu eitemau allai gael eu defnyddio i gyflawni trosedd.
Drwy’r defnydd o chwilio ar ôl stopio mae Heddlu De Cymru yn gobeithio cynyddu hyder cymunedol yn yr heddlu a chyfrannu i leihau trosedd ac ofn trosedd.
Ni ddylai person gael ei stopio na’i chwilio dim ond oherwydd ei oedran, ethnigrwydd, cenedligrwydd, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd, golwg, yr iaith a ddefnyddia neu oherwydd ei fod wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol.
Nid yw hyn yn berthnasol ar gyfer sgyrsiau cyffredinol megis rhai pryd y bydd heddlu yn chwilio gwybodaeth gefndir neu yn rhoi cyfarwyddiadau
Nid yw’r ffurflen yn gofnod troseddol.