Arweiniad yw hwn i’r gweithdrefnau ‘stopio a chwilio’. Nid yw’n cwmpasu'r gyfraith yn ei chyfanrwydd.
- Pwy all eich stopio chi?
- Swyddog heddlu, neu
- Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (SCCH).
Rhaid i SCCH fod mewn lifrai ond nid oes yn rhaid i swyddog heddlu fod; rhaid iddynt fodd bynnag ddangos eu cerdyn adnabod
Beth yw stopio?
‘Stopio’ yw pan fydd swyddog yn eich stopio chi ac yn gofyn i chi:
- beth ydych ch’n ei wneud;
- pam ydych chi mewn ardal neu i ble rydych yn mynd; neu
- beth ydych chi’n ei gario .
Beth yw stopio a chwilio?
Gallwch gael eich stopio a’ch chwilio mewn unrhyw le pan fydd swyddog yn credu eich bod yn cario:
- cyffuriau, arfau neu eiddo wedi’i ddwyn; neu
- eitemau y gellid eu defnyddio:
- i gyflawni trosedd, neu
- i gyflawni gweithred o derfysgaeth.
Gall y swyddog ofyn i chi ddiosg eich dillad uchaf e.e. cot neu siaced neu unrhyw beth yr ydych yn ei wisgo am resymau crefyddol, megis sgarff wyneb, fêl neu dwrban, ond mae'n rhaid iddynt fynd â chi i rywle allan o olwg y cyhoedd. Gallwch ofyn bod y swyddog sy’n eich chwilio o’r un rhyw â chi. Nid yw’n golygu eich bod yn cael eich arestio.
Weithiau gall swyddogion chwilio unrhyw un o fewn ardal benodol, er enghraifft:
- pan fo tystiolaeth y gallai trais difrifol ddigwydd yno, neu
- lle mae bygythiad terfysgol wedi ei nodi.
Rhaid i’r swyddog esbonio hyn i chi ac mae’n rhaid iddo/iddi fod yn chwilio am eitemau y gellid eu defnyddio mewn cysylltiad â thrais neu derfysgaeth.
Beth os ydwyf mewn cerbyd?
Gall eich cerbyd gael ei stopio ar unrhyw adeg ac efallai y gofynnir i chi ddangos eich dogfennau gyrru. Rhaid i chi dderbyn cofnod ysgrifenedig.
Sut dylid cynnal gweithred stopio a chwilio?
Cyn i chi gael eich chwilio, mae’n rhaid i’r swyddog gymryd pob cam rhesymol i sicrhau eich bod yn deall:
- bod yn rhaid i chi aros i gael eich chwilio;
- pa gyfraith y maent yn ei defnyddio a’ch hawliau;
- ei enw;
- yr orsaf mae’n gweithio ynddi;
- pam y gwnaeth eich stopio;
- am beth y maent yn chwilio; a’ch
- hawl i ffurflen stopio/chwilio
Eich hawl i ffurflen stopio/chwilio
Os cewch eich stopio a’ch chwilio mae’n rhaid i’r swyddog lenwi ffurflen stopio/chwilio a rhoi copi i chi. Dylech gael copi o’r ffurflen stopio/chwilio ar unwaith oni bai eu bod yn cael eu galw i fynd i achos brys. Mewn achos o’r fath gallwch gael copi o orsaf heddlu. Mae’n bwysig eich bod yn cadw copi o’r ffurflen stopio/chwilio, yn enwedig os nad ydych yn hapus gyda’r ffordd y cawsoch eich trin.
[Os cewch eich stopio yn unig yn rhanbarthau Caerdydd, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Abertawe neu Bro Morgannwg byddwch ond yn derbyn derbynneb yn datgan pwy a’ch stopiodd chi. Fodd bynnag os cewch eich stopio a’ch chwilio byddwch yn parhau i dderbyn ffurflen lawn.]
Mae’n rhaid i’r swyddog ysgrifennu:
- eich enw a disgrifiad ohonoch (dim ond os cewch eich chwilio);
- sut yr ydych yn disgrifio eich cefndir ethnig;
- ble a phryd y cawsoch eich stopio neu eich chwilio;
- pam y cawsoch eich stopio neu eich chwilio;
- a ydynt yn cymryd unrhyw gamau yn eich erbyn;
- enwau a/neu rifau swyddogion; ac
- os cawsoch eich chwilio, am beth oeddent yn chwilio ac unrhyw beth y daethant o hyd iddo.
Bydd y swyddog yn gofyn i chi am eich enw, cyfeiriad a’ch dyddiad geni. Nid oes raid i chi roi’r rhain heblaw eich bod yn cael eich arestio neu eich riportio am drosedd.
Beth allaf i ei wneud os wyf yn anhapus am y modd y cefais fy nhrin?
Dylai’r swyddog eich trin yn deg a chyda pharch. Os ydych yn anhapus am y modd y cawsoch eich trin, gallwch gwyno. Os teimlwch i chi gael eich trin yn wahanol oherwydd eich hil, oedran, cyfeiriadedd rhywiol, rhyw, anabledd, crefydd neu ffydd gallwch gwyno.
Bydd o gymorth i chi gadw’r ffurflen a roddwyd i chi gan yr heddlu.
Gallwch gael cyngor ar sut i wneud cwyn o’r mannau canlynol:
- eich gorsaf heddlu leol
- Awdurdod Heddlu De Cymru
- Cyngor ar Bopeth
- eich Cyngor Cydraddoldeb Hiliol lleol
- Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu
- Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
- cyfreithiwr
Mae’n rhaid i’r swyddog sy’n eich stopio:
- eich trin ag urddas a pharch;
- roi rheswm pam y cawsoch eich stopio;
- rhoi eich manylion iddynt yn cynnwys eich enw, rhif heddlu a gorsaf; a
- rhoi copi i chi o’r ffurflen stopio/chwilio:
Cofiwch – mae gennych hawl i gwyno os na chawsoch eich trin yn deg.
Cyhoeddwyd gan CAH (h) Tachwedd 2007