South Wales Police Authority

Beth yw 'Stopio a Chwilio'?

Beth yw 'Stopio a Chwilio'?

Stopio a Chwilio
‘Stopio a chwilio’ yw pan fydd swyddog heddlu yn chwilio person yn gorfforol, eu dillad ac unrhyw beth maent yn ei gario.

Cynhelir chwiliadau yn unol â phwerau cyfreithiol.

Mae’n ofynnol gwneud cofnod o unrhyw stopio neu stopio i chwilio. Mae’n ofynnol i’r cofnod gynnwys:
  • Dyddiad, amser a lle’r cyfarfyddiad.
  • Os yw’r person mewn cerbyd, rhif cofrestru’r cerbyd.
  • Y rheswm dros y stopio.
  • Ethnigrwydd hunan ddiffiniedig y person a gaiff ei stopio.
  • Canlyniad y cyfarfyddiad.

Nid oes bwerau i fynnu bod unigolyn yn rhoi manylion personol. Dylai’r swyddog heddlu wneud cofnod ar y pryd a’i roi i’r person ar unwaith, heblaw bod amgylchiadau eithriadol sy’n gwneud hyn yn gwbl anymarferol.

Mae’r gyfraith hefyd yn gwneud darpariaeth i ganiatáu chwiliadau am y rhesymau penodol canlynol:
  • Chwilio am eitemau y gellid eu defnyddio at ddiben cysylltiedig â chomisiynu, paratoi neu ddechrau gweithredoedd terfysgol o dan Adran 44 Deddf Terfysgaeth 2000.
  • Chwilio am arfau ymosod neu offer ymosodol er mwyn atal digwyddiadau trais difrifol neu i ddelio gyda chario’r cyfryw eitemau, o dan Adran 60 Deddf Cyfiawnder Troseddol a Threfn Gyhoeddus 1994.

Pam y caiff chwiliadau stopio eu cofnodi?


Os cânt eu defnyddio yn gywir mae stopio a stopio a chwilio yn arfau gwerthfawr a all gynorthwyo i atal a datrys troseddau a gwneud cymunedau yn ddiogelach.

Caiff cofnodion eu cadw i fonitro defnydd yr heddlu o stopio a stopio a chwilio a rhennir y wybodaeth hon gyda phobl leol.

Bydd stopio a chwilio yn digwydd mewn lle cyhoeddus; neu yn unrhyw le os yw’r heddlu yn credu eich bod wedi cyflawni trosedd.

Beth sy’n digwydd os caf fy stopio a fy chwilio?


Os cewch eich stopio gofynnir i chi’n gyntaf i ble rydych yn mynd a beth rydych wedi bod yn ei wneud. Efallai y bydd yr heddlu wedyn yn penderfynu eich chwilio ond dim ond os oes ganddynt reswm da i wneud hynny. Er enghraifft, os ydych yn cyfateb i broffil troseddwr a welwyd yn yr ardal, neu eu bod yn credu eich bod yn ymddwyn yn amheus. Bydd y chwilio yn digwydd yn agos at y fan lle cawsoch eich stopio.

Os bydd y swyddog yn gofyn i chi ddiosg rhagor na’ch cot a’ch menig, neu unrhyw beth yr ydych yn ei wisgo am resymau crefyddol, mae’n rhaid iddynt fynd a chi i rywle sydd allan o olwg y cyhoedd.

Gofynnir i chi wacau eich pocedi a dangos cynnwys unrhyw fagiau y gallwch fod yn eu cario i’r swyddogion.

A allaf gwyno ynglyn â chael fy stopio a’m chwilio?


Ni ddylech gael eich stopio a’ch chwilio dim ond oherwydd eich oedran, ethnigrwydd, cenedl, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd, crefydd, y modd yr ydych wedi eich gwisgo neu oherwydd eich bod wedi cyflawni trosedd yn y gorffennol. Os credwch i chi gael eich stopio a’ch chwilio yn afresymol neu eich bod heb gael eich trin yn deg neu gyda pharch gallwch gwyno i’r canlynol:
  • Eich gorsaf heddlu leol
  • Awdurdod Heddlu De Cymru
  • Cyngor ar Bopeth
  • Eich Cyngor Cydraddoldeb Hiliol lleol
  • Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu
  • Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol
  • Cyfreithiwr

Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Cymrhyd Rhan

Cymrhyd Rhan Gallwch gymryd rhan gyda’r Awdurdod Heddlu mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys gwirfoddoli, ymgynghori a gwobrau.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Hafan