Ers 2008 mae wedi bod yn ofyniad cyfreithiol ar awdurdodau heddlu i fonitro eu heddlu o ran cydymffurfiad â Deddf Hawliau Dynol 1998.
Mae Hawliau Dynol yn ymwneud â gwarchod hawliau a rhyddid pawb, nid dim ond grwpiau penodol. Felly mae gan bob unigolyn rhyw fath o ddiogelwch o dan y Ddeddf Hawliau Dynol.
Mae gan yr heddlu ystod o rymoedd, yn ogystal â phŵer i arestio ac i gadw. Pan yn defnyddio grymoedd o'r fath rhaid i'r heddlu sicrhau eu bod yn parchu hawliau dynol pob unigolyn.
Mae'r Awdurdod Heddlu yn monitro Heddlu De Cymru i sicrhau bod hawliau dynol yn cael eu cynnal pan fydd unrhyw un mewn cysylltiad â'r heddlu - boed hynny fel un a amheuir, dioddefwr, tyst neu unrhyw berson arall. Gwneir hyn drwy
Grŵp Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yr Awdurdod.
Mae Deddf Hawliau Dynol yn gwneud yr agweddau canlynol o Gonfensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn rhan o gyfraith y DU:
- yr hawl i fywyd
- yr hawl i beidio â chael eich arteithio neu eich trin yn ddiraddiol neu annynol
- yr hawl i fod yn rhydd rhag caethwasiaeth a llafur gorfodol
- yr hawl i ryddid
- yr hawl i achos llys teg
- yr hawl i beidio cael eich cosbi heb gyfraith
- yr hawl i barch at fywyd preifat a bywyd teuluol, cartref a chyfatebiaeth
- yr hawl i ryddid meddwl, cydwybod a chrefydd
- yr hawl i ryddid mynegiant
- yr hawl i gael rhyddid i ymgynnull a chymdeithasu
- yr hawl i briodi a dechrau teulu
- yr hawl i beidio â dioddef gwahaniaethu o ran unrhyw rai o’r hawliau sydd wedi eu cynnwys yn y Confensiwn Ewropeaidd
- yr hawl i fwynhau eich eiddo mewn heddwch
- yr hawl i addysg
- yr hawl i etholiadau rhydd
Nid yw pob un o'r uchod yn hawliau absoliwt. Mae rhai yn hawliau amodol neu gyfyngedig.