South Wales Police Authority

Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2010-13

Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2010-13

Mae’n bleser gennym gyflwyno Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol cyntaf Awdurdod yr Heddlu. Mae hwn yn gynllun sengl sy’n cyfuno ein hymrwymiadau cydraddoldeb ar gyfer pob maes cydraddoldeb a chredwn ei fod yn dangos ein hymrwymiad tuag at fynd i’r afael ag anghydraddoldeb i bawb.
 
Rydym wedi symud ymlaen yn sylweddol o ran cydraddoldeb ac amrywiaeth ers i’n Cynlluniau Cydraddoldeb Hiliol, Rhywiol a Phobl Anabl gael eu cyflwyno ac mae cydraddoldeb wedi dod yn flaenoriaeth allweddol o ran y ffordd yr ydym yn gwneud ein gwaith. Fodd bynnag, gwyddom fod anghydraddoldeb, camwahaniaethu ac anfantais yn bodoli o hyd ymysg cymunedau ac unigolion De Cymru, ac y gall nifer o bobl deimlo fel eu bod wedi’u heithrio neu yn ofni gwasanaethau’r heddlu. Hefyd, rydym yn ymwybodol fod oedran, cyfeiriadedd rhywiol, trawsrywedd a chrefydd oll yn faterion sy’n gallu arwain at anghydraddoldeb ac rydym am sicrhau fod gennym gynllun sy’n amgylchynu’r meysydd cydraddoldeb hyn.
 
Mae’r camau gweithredu yn y cynllun 3 blynedd wedi’u llunio yn dilyn nifer o brosesau ymgynghori ac ymglymiad gydag aelodau o’r cyhoedd a gweithwyr mewnol yr heddlu. Credwn fod y camau gweithredu yn nodau realistig a fydd yn ein cynorthwyo i wella yn y meysydd allweddol y gwyddom fod angen i ni ddarparu.
 
Does dim amheuaeth fod proffil cydraddoldeb wedi’i godi o fewn y gwasanaeth heddlu a’r awdurdodau heddlu, ond mae’n amlwg fod llawer mwy o waith i’w wneud. Byddwn yn bersonol yn sicrhau fod amcanion y cynllun yn cael eu cyflawni a gwyddom y bydd holl Aelodau a Swyddogion yr Awdurdod yn gweithio gyda ni ar hyn.
Cynllun Cydraddoldeb a Hawliau Dynol 2010-13 Maint: [2.00 MB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
What do you think our equality priorities should be for the years ahead?
Click here to take part.

Hafan