Fel Awdurdod rydym yn cydnabod pwysigrwydd cydraddoldeb rhyw - yn ein rôl fel cyflogwr ac fel gwarchodwr gwasanaeth cyhoeddus.
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb 2006 yn diwygio Deddf Gwahaniaethu ar sail Rhyw 1975 ac yn gosod dyletswydd statudol ar bob awdurdod cyhoeddus i hyrwyddo cydraddoldeb rhyw. Golyga hyn ei bod yn rhaid i Awdurdodau Heddlu, wrth wneud eu swyddogaethau, roi ystyriaeth ddyladwy i'r angen i:
Mae'r ‘dyletswydd gyffredinol’ hon yn gymwys i bob awdurdod cyhoeddus, yn cynnwys Awdurdod Heddlu De Cymru. Mae'r ddyletswydd yn gymwys o ran pob swyddogaeth sy'n ymwneud â chyflogaeth a darparu gwasanaeth. Anelir y ddyletswydd at wella cydraddoldeb ar gyfer dynion, menywod a phobl trawsrywiol.
Os hoffech gael dweud eich dweud ar ein Cynllun Cydraddoldeb Rhyw, cliciwch ar y ddolen isod.
Cliciwch yma i adael eich sylwadau