Mae'n hollbwysig ein bod, fel awdurdod cyhoeddus, yn dal ati i ddileu gwahaniaethu hiliol ac i hyrwyddo cyfartaledd cyfle a chysylltiadau hiliol da.
O dan Ddeddf Cysylltiadau Hiliol (Diwygio) 2000, mae gan Awdurdod Heddlu De Cymru ddyletswydd gyffredinol i roi ystyriaeth ddyladwy i'r angen i:
a) Dileu gwahaniaethu hiliol anghyfreithlon
b) Hyrwyddo cyfle cyfartal
c) Hyrwyddo cysylltiadau da rhwng pobl o wahanol grwpiau hil.
Mae'r ddyletswydd hon yn gymwys i'r ffordd yr ydym yn gwneud ein holl swyddogaethau. Mewn geiriau eraill rydym yn ceisio sicrhau ein bod yn dileu gwahaniaethu hiliol ym mhopeth a wnawn ac yn hyrwyddo cydraddoldeb hiliol a thegwch ar gyfer pob grwp hil.
Hefyd mae gan yr Awdurdod ddyletswyddau penodol o dan y Ddeddf. Mae'r rhain yn cynnwys dyletswydd i fonitro ein gweithdrefnau cyflogaeth o ran ethnigrwydd a'r ddyletswydd i gyhoeddi Cynllun Cydraddoldeb Hiliol sy'n nodi sut y byddwn yn bodloni'r dyletswyddau cyffredinol uchod.
Hwn yw trydydd Cynllun Cydraddoldeb Hiliol yr Awdurdod. Rydym yn falch bod newidiadau arwyddocaol wedi'u gwneud i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yn yr Awdurdod yn y chwe blynedd ers cyflwyno'r cynllun cyntaf.
Rydym hefyd yn ymwybodol bod lle i welliant serch hynny a byddwn yn gweithio'n ddiwyd i gyflawni nodau'r Cynllun newydd hwn.
Os hoffech roi eich barn ar ein Cynllun Cydraddoldeb Hiliol, ticiwch ar y ddolen isod.
Cliciwch yma i adael eich sylwadau