Mae gan yr Awdurdod Heddlu ddyletswydd gyfreithiol i ymchwilio cwynion yn erbyn Prif Swyddogion yr Heddlu.
Mae unrhyw gwynion a wneir yn erbyn Swyddogion Heddlu o renc Prif Uwcharolygydd ac is, neu staff yr heddlu, yn cael eu hymchwilio gan Adran Safonau Proffesiynol y Llu neu gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu (IPCC).
Mae gan yr Awdurdod, fodd bynnag, ddyletswydd i fonitro pob cwyn a wneir yn erbyn Heddlu De Cymru. Gwnawn hyn drwy ein
Grwp Ansawdd Gwasanaeth.
Grwp Ansawdd Gwasanaeth
Mae'r Grwp yn cynnwys chwe Aelod Awdurdod Heddlu, sy'n derbyn adroddiadau gan yr Adran Safonau Proffesiynol ar bob cwyn a dderbynnir mewn un chwarter, a sut mae'n cymharu â blynyddoedd blaenorol. Torrir hyn i lawr yn ôl y math o gwyn ac adran.
Hefyd, mae'r Aelodau’n gyfrifol am gynnal hap samplo o'r ffeiliau cwynion. Mae'r broses hon yn rhoi gwiriad annibynnol bod y broses gywir wedi'i dilyn, ac mae'n chwilio’n arbennig am:
-
Gyfeirio
-
Prydlondeb
-
Modd y cafodd yr achwynydd ei drin
-
Modd y cafodd y swyddog ei drin
-
Cymesuredd
-
Eglurder casgliadau'r ymchwiliad
-
Cyfiawnhad dros y canlyniad
I weld y ffurflen gyfan, lawrlwythwch y ddogfen isod.