South Wales Police Authority

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth

Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth

Diben ein Cynllun Cyhoeddi yw rhoi gwybod i chi pa wybodaeth sydd ar gael yn hwylus gennym ni. Drwy hyn golygwn fod y wybodaeth ar gael ar ein gwefan; y gellir ei chael gennym ni ar gais drwy lythyr, e-bost; y gellir ei brynu gennym neu y gellir ei weld mewn llyfrgell leol.
 
Mae'r cynllun yn ei hymrwymo i:
 
  • Gyhoeddi'n rhagweithiol neu ei roi ar gael fel arall fel mater o drefn, wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth amgylcheddol, a ddelir gan yr awdurdod ac sy'n dod o fewn y dosbarthiadau isod.
  • Nodi'r wybodaeth a ddelir gan yr Awdurdod ac sy'n disgyn o fewn y dosbarthiadau isod.
  • Cyhoeddi’n rhagweithiol neu roi ar gael fel arall fel mater o drefn, wybodaeth yn unol â'r datganiadau a gynhwysir o fewn y cynllun hwn.
  • Cynhyrchu a chyhoeddi'r dulliau drwy ba rai y gwneir y wybodaeth benodol ar gael fel mater o drefn fel y gellir ei hadnabod a'i chyrchu’n hawdd gan aelodau'r cynllun.
  • Adolygu a diweddaru’n gyson y wybodaeth a roddir ar gael gan yr Awdurdod o dan y cynllun hwn.
  • Cynhyrchu rhestr o unrhyw ffioedd a godir am fynediad at wybodaeth a roddir ar gael yn rhagweithiol.
  • Rhoi'r cyhoeddiad hwn ar gael i'r cyhoedd.
 
Mae’r Awdurdod wedi mabwysiadu Cynllun Cyhoeddi sy'n nodi'r wybodaeth a gyhoeddwyd neu y mae'n bwriadu ei gyhoeddi. Os ydych yn chwilio am wybodaeth gwahoddir chi i ystyried y cynllun i weld a ellir ei ddefnyddio i ddarparu'r wybodaeth yr ydych yn chwilio amdani.
 
Gellir gwneud cais am wybodaeth na chaiff ei chadw o fewn y Cynllun hwn i:
 
Prif Weithredwr
Awdurdod Heddlu De Cymru
Tŷ Morgannwg
Pencadlys yr Heddlu
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SU
Ffacs: 01656 869407
E-bost: police.authority@south-wales.pnn.police.uk
 
Dylid gwneud pob cais yn ysgrifenedig.
 
Os oes angen cymorth neu gyngor arnoch ar sut i wneud cais cysylltwch â 01656 869366.
Cynllun Cyhoeddi Rhyddid Gwybodaeth Maint: [768 KB] Math o Ffeil: [.doc]
Freedom of Information Requests Maint: [190 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Newyddion yr Awdurdod

Newyddion yr Awdurdod
Ewch at ein hadran newyddion am y wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn â’r Awdurdod Heddlu.

Cliciwch yma am y diweddariadau diweddaraf.
Hafan