Cwynion yn erbyn Aelodau’r Awdurdod
Mae Aelodau’r Awdurdod Heddlu’n gynrychiolwyr y gymuned, ac felly disgwylir iddynt ymddwyn mewn modd nad yw’n dwyn anfri ar eu swydd.
Mae’n rhaid i bob Aelod o’r Awdurdod Heddlu ufuddhau i God Ymddygiad, sy’n cynnal eu gweithredoedd tra’n perfformio’u rôl fel Aelodau o’r Awdurdod Heddlu.
Gellir gweld y Cod Ymddygiad yn llawn drwy agor y ddogfen ar waelod y dudalen hon.
Os ydych chi’n teimlo bod Aelod o’r Awdurdod Heddlu wedi ymddwyn mewn modd sy’n groes i’r Cod Ymddygiad, gallwch wneud cwyn yn ei erbyn.
Sefydlwyd Pwyllgor Safonau er mwyn sicrhau bod safonau moesegol Aelodau’r Awdurdod eu hun o’r radd uchaf.
Mae’r Pwyllgor yn cynnwys dau Aelod o’r Awdurdod Heddlu a thri Chynrychiolydd Annibynnol ac mae’n cwrdd yn gyson. Am ragor o fanylion am y Pwyllgor Safonau, cliciwch yma.