Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored, gonest a thryloyw.
Rydym wedi ymrwymo i roi'r gwasanaeth gorau posibl i chi. O ganlyniad rydym angen gwybod pan wneir rhywbeth anghywir. Wrth gwrs, byddem yn falch iawn hefyd i gael gwybod pan fydd rhywbeth wedi ei wneud yn arbennig o dda.
Cwynion
Bydd Awdurdod Heddlu De Cymru yn rhoi ystyriaeth ddifrifol i bob cwyn.
Gall cwyn gael ei gwneud gan unrhyw un sy'n teimlo iddynt gael eu trin yn annheg naill ai gyda Swyddogion, staff, Aelodau'r Awdurdod, gan wasanaeth a ddarperir neu hyd yn oed benderfyniad neu bolisi.
Nid yw'r Awdurdod yn gyfrifol am ymchwilio cwynion am Swyddogion Heddlu o dan renc Prif Gwnstabl Cynorthwyol, nac aelodau o Staff yr Heddlu.
Awgrymiadau
Fel yr Awdurdod Heddlu ymdrechwn i ddarparu'r gwasanaeth gorau posibl i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym yn gwybod bod ffyrdd y gallwn wella beth a wnawn.
Mae gennym bob amser ddiddordeb mewn clywed awgrymiadau am sut i wella'r gwasanaeth.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Canmoliaeth
Nod Awdurdod Heddlu De Cymru yw bod mor gynorthwyol ac agored â phosibl. Os meddyliwch ein bod wedi gwneud rhywbeth yn arbennig o dda, byddem yn hoffi clywed amdano.