Polisi Gwasanaethau Amddiffynnol
Diffinnir Gwasanaethau Amddiffynnol gan Arolygiaeth Cwnstabliaeth Ei Mawrhydi (ACEM) a'r Asiantaeth Genedlaethol Gwella Plismona (NPIA) fel:
- Gwrth-derfysgaeth
- Eithafiaeth Ddomestig
- Troseddau difrifol a threfnedig yn cynnwys troseddau traws ffiniol
- Argyfyngau Sifil Posibl
- Rheoli digwyddiadau hollbwysig
- Troseddau Mawr
- Trefn Gyhoeddus
- Plismona Ffyrdd Strategol
- Amddiffyn Pobl Ddiamddiffyn (Amddiffyn y Cyhoedd)
- Arfau Tanio
Mae gan yr Awdurdod Heddlu ddyletswydd i fonitro a chraffu ar y Llu ym maes Gwasanaethau Amddiffynnol, y cyfeirir atynt weithiau fel ‘Plismona Lefel 2’.
Mae nodau'r polisi hwn yn cynnwys:
- Sefydlu trefniadau atebolrwydd ar gyfer Gwasanaethau Amddiffynnol ar y lefel leol a rhanbarthol.
- Nodi safonau gofynnol priodol o fewn pob maes plismona, a sut y mae pob un i gael ei fonitro a'i fesur.
- Nodi'r strwythur drwy ba un y bydd y Llu yn adrodd i'r Awdurdod ac i Awdurdodau Heddlu Cymru (AHC), a'r amserlen berthnasol.
- Rhoi enghreifftiau o reolaeth yr Awdurdod a chraffu dros y llu yn y meysydd plismona a ddiffinnir yn y polisi.
Cliciwch ar y ddogfen isod i ddarllen y polisi llawn.