
David Hughes, Cadeirydd
Aelodaeth
Mr David Hughes (Cadeirydd) (Cynrychiolydd Annibynnol)
Mr Graham Bingham
Y Cynghorydd Alun Thomas
Miss Ruth Davies (Cynrychiolydd Annibynnol)
Dr Deirdre Jones (Cynrychiolydd Annibynnol)
Cyfrifoldebau Swyddogion:
Prif Swyddog - Prif Weithredwr
Gweinyddu - Rheolwr Ansawdd y Gwasanaeth
Mae cofnodion blaenorol y Grŵp ar gael ar waelod y dudalen hon.
Cyfansoddiad
1. Bydd y Pwyllgor yn cynnwys pum Aelod. Mae dau ohonynt i gael eu henwebu gan yr Awdurdod Heddlu. Mae’r tri aelod arall i fod yn gynrychiolwyr annibynnol wedi’u penodi gan yr Awdurdod Heddlu yn dilyn hysbysebu’n gyhoeddus.
Cadeiryddiaeth
2. Bydd y Pwyllgor yn penodi un o’r cynrychiolwyr annibynnol yn Gadeirydd ac yn ei absenoldeb ef/ ei habsenoldeb hi cadeirir y cyfarfod gan gynrychiolydd annibynnol arall a ddewisir gan y Pwyllgor.
3. Pan fo'r pleidleisiau wedi eu rhannu'n gyfartal bydd gan y cadeirydd llywyddol ail bleidlais neu bleidlais fwrw.
Cworwm
4. Yn amodol ar Baragraff 5, ni fydd gan gyfarfod o’r Pwyllgor Safonau gworwm oni bai bod o leiaf dri Aelod (gan gynnwys o leiaf un cynrychiolydd annibynnol) yn bresennol drwy gydol y cyfarfod.
5. Pan fyddai o leiaf un cynrychiolydd annibynnol wedi bod yn bresennol drwy gydol y cyfarfod pe na bai e/hi wedi’i rwystro /rhwystro neu ei gyfyngu/ei chyfyngu rhag cymryd rhan mewn unrhyw fusnes gan yr Awdurdod yn rhinwedd ei God Ymarfer, ni fydd y gofynion ym Mharagraff 4 i’r cworwm gynnwys o leiaf un cynrychiolydd annibynnol yn gymwys.
Cylch Gorchwyl
6. Cynghori’r Awdurdod ar fabwysiadu cod lleol sy’n nodi’r safonau ymddygiad y disgwylir i Aelodau gydymffurfio â hwy.
7. Helpu i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad o fewn yr Awdurdod trwy gynorthwyo, cynghori a hyfforddi.
8. Monitro gweithrediad y cod lleol ac ymchwilio a phenderfynu ar gwynion a gyfeirir ato o bosib o dan ddarpariaethau statudol.
9. Arolygu a monitro cofrestri cyhoeddus yr Awdurdod ar gyfer:
(a) Cofrestr Buddiannau’r Aelodau
(b) Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch Aelodau a Swyddogion
(c) Cofrestr Datganiadau Buddiannau gan Aelodau
10. Arolygu cofrestri’r Llu ar gyfer cofnodi Rhoddion a Lletygarwch Prif Swyddogion a derbyn adroddiad blynyddol gan y Dirprwy Brif Gwnstabl ar ganlyniad ei arolwg/harolwg o Gofrestri Rhoddion a Lletygarwch y Rhanbarthau a’r Adrannau.
11. Cydweithio â Bwrdd Safonau Lloegr ac Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru a gweithredu ynghylch unrhyw gyfarwyddiadau posibl a gyflwynir iddo ganddynt.
12. Gweithredu ynghylch unrhyw geisiadau a gyfeirir ato o bosib gan yr Awdurdod Heddlu.
13. Caniatáu gollyngiad i Aelodau'r Awdurdod Heddlu rhag y gofynion yn ymwneud â buddiannau a nodir yn y Cod Ymarfer, fel y bo’n briodol.
14. Derbyn ac ystyried adroddiadau gan Gadeirydd yr Awdurdod Heddlu a’r Prif Weithredwr ar werthusiadau blynyddol o berfformiad Aelodau.