Aelodaeth
Cadeirydd yr Awdurdod Heddlu (Cadeirydd)
Is-gadeirydd yr Awdurdod Heddlu
Cadeirydd Archwilio A Chraffu
Cadeirydd Ymgysylltu â’r Gymuned
Cadeirydd Cydraddoldebau ac AD
Cadeirydd Monitro Perfformiad
Cadeirydd Gwasanaethau Amddiffynnol
Cyfrifoldebau Swyddogion:
Prif Swyddog - Prif Weithredwr, Trysorydd
Cylch Gorchwyl
1. Gweithredu fel corff ymgynghori ar gyfer Cadeirydd ac Is-gadeirydd yr Awdurdod a Phrif Swyddogion yr Awdurdod.
2. Trefnu a monitro’r trefniadau Llywodraethu ar gyfer yr Awdurdod Heddlu.
3. Monitro cydymffurfiad â’r Cod Llywodraethu Corfforaethol a chynorthwyo i ddatblygu Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
4. Derbyn adroddiadau gan y Trysorydd a’r Prif Weithredwr ar effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd prosesau rheoli mewnol.
5. Paratoi ar gyfer asesu yr Awdurdod Heddlu a rheoli ei welliannau parhaus.
6. Cymryd trosolwg o Gofrestr Risgiau yr Awdurdod Heddlu, mynd i’r afael â risgiau sy’n codi a sefydlu rheoli risg.
7. Cymryd trosolwg o gynlluniau gweithredu pwyllgorau'r Awdurdod Heddlu.
8. Delio â materion penodol a bennir o bryd i’w gilydd gan yr Awdurdod Heddlu.
9. Cynnal Adolygiadau Datblygu Personol blynyddol (PDRs) o’r Prif Weithredwr a’r Trysorydd.
Pwerau Dirprwyedig
1. Cymeradwyo sefydlu grwpiau Gorchwyl a Gorffen, gan gynnwys cylch gorchwyl ac amserlen
2. Cymeradwyo sefydlu unrhyw Weithgorau Sefydlog gan gynnwys cylch gorchwyl.
3. Gwneud penderfyniadau brys ynglyn ag unrhyw fater pan nad yw amser yn caniatáu iddo gael ei ystyried gan yr Awdurdod llawn na chan Bwyllgor.
Rhoddir gwybod i bob Aelod am unrhyw benderfyniad a wneir dan y pwer dirprwyedig uchod o fewn dau ddiwrnod gwaith. Os bydd lleiafrif o dri Aelod yn anhapus ag unrhyw benderfyniad gallant, o fewn pum niwrnod gwaith, ofyn i’r Prif Weithredwr ‘alw’r penderfyniad i mewn.’ Bydd y Prif Weithredwr yn rhoi gwybod i bob Aelod am y ‘galw i mewn’ ac a yw’r mater i gael ei ystyried gan yr Awdurdod llawn neu gan Bwyllgor.
Gall yr Awdurdod Heddlu benderfynu ar unrhyw fater ‘galw i mewn’ a gyfeirir ato. O ran materion ‘galw i mewn’ a gyfeirir at Bwyllgor, bydd gan y Pwyllgor bwerau dirprwyedig awtomatig i benderfynu ar y mater.
Bydd holl aelodau’r Awdurdod yn gallu cyfeirio unrhyw faterion i’r Bwrdd Cynghori Cadeiryddion i’w hystyried.