Mae craffu yn ofyniad allweddol i'r Awdurdod Heddlu i sicrhau ein bod ni, a'r Llu, yn parhau'n effeithiol ac atebol. Mae'n cynorthwyo i benderfynu a yw'r broses gwneud penderfyniadau yn glir a hygyrch ac yn rhoi cyfle i ddylanwadu ar wneud penderfyniadau strategol.
Nodwedd allweddol yn ein rhaglen craffu fydd ymglymiad grwpiau cymunedol a sefydliadau partner ac wrth i'r broses aeddfedu, caiff y gymuned leol ei hannog i awgrymu pynciau ar gyfer eu hadolygu drwy broses ymgynghori.
Prif swyddogaeth y Panel Craffu fydd herio'r Llu ar bwnc cytunedig ac i ddarparu adroddiad i'r Awdurdod Heddlu llawn, gan amlinellu unrhyw argymhellion sydd angen eu cymeradwyo.
Yn Ne Cymru mae gennym bedair egwyddor craffu:
- Darparu her "cyfaill beirniadol" i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau
- Adlewyrchu barn a phryder cyhoedd a chymunedau De Cymru
- Craffu, gwerthuso ac adrodd i aelodaeth lawn yr Awdurdod Heddlu
- Cyfrannu i allu Heddlu De Cymru i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac effeithlon i'r cyhoedd.
Rhaglen Waith 2010-11
- Stop and Search
- Risk Management
- Force Communication (this topic was chosen by the public via a survey)
Bydd gan bob pwnc yn y rhaglen craffu gwmpas cytunedig.
Bydd grŵp bach o Aelodau yn eistedd ar y Panel Craffu a bydd yn cyfarfod ac adolygu'r wybodaeth a ddarperir. Byddant hefyd yn gallu cyfweld a holi Swyddogion Heddlu ac Aelodau Staff pryd a sut fydd ei angen.
Caiff adroddiad llawn ei gyflwyno wedyn i'r Awdurdod Heddlu llawn gan amlygu unrhyw welliannau ar gyfer gwelliant. Caiff y rhain eu gosod ar y wefan.
Cliciwch ar y ddogfen isod i ddarllen y cylch gorchwyl llawn.