SiteAlias

Page title

Ein Haddewid Plismona i’n cymunedau

Policing Pledge
Bydd Heddlu De Cymru yn cefnogi dinasyddion sy’n parchu’r gyfraith ac yn erlid troseddwyr yn ddiflino i’ch cadw chi a’ch cymdogaethau yn ddiogel rhag niwed. Byddwn yn:
 
1. Eich trin yn deg a chydag urddas a pharch bob amser, gan sicrhau bod gennych fynediad teg at ein holl wasanaeth ar amser sy’n rhesymol ac yn addas i chi.
 
2. Darparu gwybodaeth i chi fel eich bod yn gwybod pwy yw eich Tîm Plismona Cymdogaeth dynodedig, lle mae wedi ei leoli, sut i gysylltu ag ef a sut i gydweithio ag ef.
 
3. Sicrhau bod eich Tîm Plismona Lleol a phatrolau heddlu eraill yn weladwy ac yn eich ardal chi ar adegau pan fyddant yn fwyaf effeithiol a phan fyddwch chi’n dweud wrth ymeich bod eu hangen fwyaf.  Fewn awnyn siw'r nadyweich tîm yn cael ei symudo fusnes cymdogaeth yn amlach nag sy’n gwbl angenrheidiol. Byddant yn treulio o leiaf 80% o’u hamser yn gweithio’n weladwy yn eich cymdogaeth, yn mynd i’r afael â’ch blaenoriaethau. Cedwir trosiant staff i’r lefelau isaf posibl.
 
4. Ymateb i bob neges sydd wedi ei chyfeirio i’ch Tîm Plismona Cymdogaeth o fewn 24 awr a, pan fo angen hynny, darparu ymateb mwy manwl cyn gynted ag y gallwn.
 
5. Anelu i ateb galwadau 999 o fewn 10 eiliad, anfon adnoddau i ddigwyddiadau brys ar unwaith gan roi rhagamcaniad o’r amser cyrraedd, eich cyrraedd yn ddiogel a chyn gyflymed â phosibl. Mewn ardaloedd trefol ein nod yw eich cyrraedd o fewn 15 munud ac mewn ardaloedd gwledig o fewn 20 munud.
 
6. Ateb pob galwad diargyfwng yn brydlon. Os bydd angen rhywun i fynychu, byddwn ynanfon patrol a rhoi rhagamcaniad o’r amser y bydd yn cyrraedd, ac:
  • Os ydych yn agored i niwed neu’n pryderu, ceisio bod gyda chi o fewn 60 munud.
  • Os ydych yn galw ynglyˆn â mater yr ydym wedi ei gytuno gyda’ch cymuned fel blaenoriaeth cymdogaeth a bod angen rhywun i fynychu, ein nod fydd bod gyda chi o fewn 60 munud.
  • Fel arall, os yn briodol, fe drefnwn apwyntiad i’ch gweld ar amser sy’n gyfleus i chi ac o fewn 48 awr.
  • Os cytunir nad oes angen rhywun i fynychu fe roddwn gyngor i chi, ateb eich cwestiynau a/neu eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun all helpu.
 
7. Trefnu cyfarfodydd cyhoeddus rheolaidd i gytuno ar eich blaenoriaethau, o leiaf unwaith y mis, gan roi’r cyfle i chi gwrdd â’ch tîm lleol gydag aelodau eraill o’ch cymuned. Bydd y rhain yn cynnwys cyfleoedd megis cymorthfeydd, briffiadau stryd ac ymweliadau gan orsafoedd heddlu symudol a gânt eu trefnu i ddiwallu anghenion a gofynion lleol. Gallwch weld manylion eich swyddog lleol a’ch blaenoriaethau plismona lleol yn www.einbobi.com.
 
8. Darparu diweddariadau misol ar gynnydd, ac ar faterion troseddu a phlismona lleol. Bydd hyn yn cynnwys darparu mapiau troseddau, gwybodaeth am droseddau penodol a’r hyn a ddigwyddodd i’r rhai a ddygwyd gerbron llys, manylion y camau yr ydym ni a’n partneriaid yn eu gweithredu i wneud eich cymdogaeth yn fwy diogel a gwybodaeth am sut mae eich llu yn perfformio.
 
9. Os ydych wedi dioddef trosedd, cytuno gyda chi pa mor aml yr hoffech gael eich diweddaru ynglyˆn â datblygiad eich achos ac am ba hyd. Mae gennych hawl i gael eich diweddaru bob mis o leiaf os dymunwch hynny ac am gyfnod amser sy’n rhesymol.
 
10. Cydnabod unrhyw anfodlonrwydd gyda’r gwasanaeth yr ydych wedi ei dderbyn o fewn 24 awr o’i riportio i ni. I’n cynorthwyo i ddatrys y mater yn llawn, trafod gyda chi sut y caiff ei drin, rhoi cyfle i chi drafod yn bersonol gyda rhywun ynglyˆn â’ch pryderon a chytuno gyda chi beth a wneir yn eu cylch a pha mor gyflym.
 
Rydym am wneud ein gorau drosoch.
 
Os na lwyddwn i gyflawni ein Haddewid fe fyddwn bob amser yn esbonio pam na fu’n bosibl ar yr achlysur hwnnw i ddarparu’r safonau uchel yr ydym yn anelu atynt ac yr ydych chi’n eu haeddu.
Addewid yr Heddlu Maint: [155 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
What do you think our equality priorities should be for the years ahead?
Click here to take part.

Cysylltu a'r Heddlu

Cysylltu a'r Heddlu Cliciwch yma i gael rhagor o fanylion ynglŷn â sut i gysylltu â Heddlu De Cymru.
Hafan