South Wales Police Authority

Ein Hardal

Ein Hardal

Ein Hardal
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn cwmpasu saith ardal Awdurdod Lleol, sef Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd, Merthyr Tudful, Castell-nedd Port Talbot, Rhondda Cynon Taf, Abertawe a Bro Morgannwg.
 
Rydym yn gofalu am ardal ddaearyddol gymharol fach - dim ond 10% o Gymru, ond rydym yn gyfrifol am blismona dros 50% o gyfanswm poblogaeth Cymru – tua 1.2 miliwn o bobl.
 
Hefyd, mae De Cymru yn denu dros 25 miliwn o ymwelwyr bob blwyddyn ac yn llwyfannu 100 o ddigwyddiadau mawr yn flynyddol.
 

Mae’n ardal blismona unigryw

 
Mae De Cymru yn ardal amrywiol, gydag ardaloedd trefol, gwledig ac arfordirol.
O fewn ein ffiniau mae gennym ddwy ddinas fawr - Abertawe a Phrifddinas Cymru, Caerdydd.
 
Mae Abertawe yn gartref i borthladd fferi, Clwb Pêl-droed Abertawe sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth a Thîm Rygbi Rhanbarthol y Gweilch.
 
Caerdydd yw un o’r dinasoedd sy’n tyfu gyflymaf yn Ewrop, mae’n gartref i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, Stadiwm y Mileniwm byd-enwog, maes awyr rhyngwladol, Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd sy’n chwarae yn y Bencampwriaeth a Thîm Rygbi Rhanbarthol Gleision Caerdydd.
 
Yn ogystal â’n hardaloedd trefol mawr, mae gennym ardaloedd cymoedd byd enwog Rhondda, Cynon a Taf sydd wedi gweld newid cyflym yn y deng mlynedd ar hugain diwethaf.
 
Mae ein ffin ddeheuol i gyd yn arfordir ac yn cynnwys porthladdoedd y Barri, Pot Talbot ac Abertawe ynghyd â chyrchfannau ymwelwyr poblogaidd Porthcawl, Y Mwmbwls a Phenrhyn Gwyr.
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Cymrhyd Rhan

Cymrhyd Rhan
Gallwch gymryd rhan gyda’r Awdurdod Heddlu mewn nifer o ffyrdd, yn cynnwys gwirfoddoli, ymgynghori a gwobrau.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.
Hafan