South Wales Police Authority

Rôl Aelodau

Rôl Aelodau

Mae nifer o rolau a chyfrifoldebau y mae Aelodau'r Awdurdod Heddlu yn eu cyflawni ar ran eu cymuned leol, a De Cymru yn gyfan.
 
Caiff Lwfans Cyfrifoldeb Sylfaenol ei dalu i bob Aelod am eu gwasanaeth i'r Awdurdod. Cliciwch yma am ragor o wybodaeth ar y Lwfansau a dderbyniwyd.
 

Rôl

 
  • Sicrhau bod gwasanaeth heddlu effeithiol ac effeithlon ar gyfer ardal Heddlu De Cymru.
  • Sicrhau bod cymunedau lleol yn derbyn Gwerth Gorau o ran gwasanaethau plismona lleol.
  • Gosod cyfeiriad strategol ar gyfer y llu a goruchwylio'n effeithiol berfformiad y gwasanaeth.
  • Cynrychioli diddordebau pawb sy'n byw, gweithio neu'n ymweld ag ardal Heddlu De Cymru, a sicrhau yr adlewyrchir barn pobl leol yn natur ac arddull plismona lleol.
  • Sicrhau y caiff gwasanaethau plismona eu darparu’n deg mewn modd sydd ddim yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw grŵp nag unigolyn.
  • Cyfranogi'n adeiladol yn rheolaeth dda'r Awdurdod a'r gwasanaeth yn gyfan.
 

Cyfrifoldebau

 
Ceir nifer o gyfrifoldebau, yn statudol ac anstatudol. Mae'r rhain yn cynnwys:
 
  • Cyflawni ar y cyd holl ofynion statudol a rhai a benderfynir yn lleol sydd ar Aelod Awdurdod Heddlu, yn cynnwys cyfranogi mewn llunio polisi, gwneud penderfyniadau a gweithgareddau eraill yr Awdurdod llawn, (megis penderfynu’r gyllideb a'r praesept, penderfynu blaenoriaethau plismona lleol, cytuno'r cynllun plismona blynyddol a strategaethau eraill).
  • Cyfranogi'n effeithiol fel Aelod unrhyw Bwyllgor, Panel neu fforwm arall y'i penodir iddo.
  • Cydymffurfio â phob cod ymddygiad perthnasol a chynnal y safonau uchaf o ran ymddygiad a moesegau.
  • Cynnal gwybodaeth gyfoes ac ymwybyddiaeth o faterion plismona cenedlaethol a lleol.
  • Craffu, herio a monitro yn drwyadl bob agwedd ar berfformiad gwasanaeth.
  • Cyfranogi'n llawn mewn gweithgareddau ymgynghori ac ymgysylltu â phobl leol ynglŷn â gwasanaethau plismona lleol.
  • Bod ynghlwm mewn penodi, disgyblu neu ddiswyddo uwch swyddogion, fel y bo'n briodol.
  • Monitro'r modd y caiff cwynion eu delio â hwy gan y gwasanaeth, a delio â chwynion yn erbyn Prif Swyddogion.
  • Hyrwyddo cydraddoldeb cyfle a gweithio i ddileu gwahaniaethu anghyfreithlon yn fewnol yn yr Awdurdod a'r Llu ac yn narpariaeth gwasanaethau plismona.

 

Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Cyllid

Cyllid
Awdurdod Heddlu De Cymru sy’n gyfrifol am osod y gyllideb flynyddol ar gyfer yr Heddlu.

Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Hafan