South Wales Police Authority

Protocol ar Berthynas Aelod/Swyddog

Protocol ar Berthynas Aelod/Swyddog

Mae'r berthynas rhwng aelodau a swyddogion yn bwysig i weithrediad llwyddiannus yr Awdurdod. Dylid nodweddu hyn gan barch ac ymddiriedaeth o'r ddeutu.
 
Mabwysiadwyd protocol sy'n cefnogi'r berthynas hon, drwy sefydlu rolau a disgwyliadau. Mae hefyd yn rhoi arweiniad ar beth i'w wneud ar yr adegau prin pan fydd pethau'n mynd o chwith.
 
Mae Aelodau a Swyddogion yr Awdurdod Heddlu ynghlwm mewn gwasanaeth cyhoeddus, ac yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol maent yn atebol i'r cyhoedd yn Ne Cymru am y modd y gwnânt hyn. Mae eu rolau a'u cyfrifoldebau yn rhyngddibynnol ond eto'n benodol:
 
  • Mae'r Aelodau yn gwasanaethu am dymor penodol yn y swydd. Maent yn penderfynu polisi Awdurdod Heddlu De Cymru ac yn rhoi arweiniad.

 

  • Cyflogir swyddogion gan yr Awdurdod, ac maent yn atebol i'r Awdurdod. Eu swyddogaeth yw rhoi cyngor i Aelodau a'r Awdurdod ac i weithredu penderfyniadau a pholisïau.
 
Er mwyn gweld y protocol llawn lawrlwythwch y ddogfen isod
Protocol ar Berthynas Aelod/Swyddog Maint: [83 KB] Math o Ffeil: [.pdf]
Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
What do you think our equality priorities should be for the years ahead?
Click here to take part.

Cwynion

Cwynion Mae Awdurdod Heddlu De Cymru wedi ymrwymo i fod yn agored, gonest a thryloyw.
Cliciwch yma am fwy o wybodaeth.
Hafan