Canllawiau ar Roddion a Lletygarwch
Mae Awdurdod Heddlu De Cymru yn benderfynol bod diwylliant a naws y sefydliad yn un gonest ac agored.
O bryd i'w gilydd gallai Aelodau a Swyddogion dderbyn cynnig o roddion neu letygarwch yng nghwrs eu dyletswyddau neu weithgareddau ar ran yr Awdurdod Heddlu, a nod y Canllawiau yw nodi ac egluro sut y dylid ymdrin â chynigion o'r fath.
Yr egwyddor hanfodol bob amser yw y dylid trin unrhyw gynnig o rodd neu letygarwch â gofal mawr.
Er mwyn darllen canllawiau’n llawn, lawrlwythwch y ddogfen isod.
Cedwir cofrestr o roddion a lletygarwch a dderbyniwyd gan Aelodau a Swyddogion. Er mwyn gweld manylion y gofrestr
cliciwch yma.