South Wales Police Authority

Sut i ddod yn Aelod Annibynnol

Sut i ddod yn Aelod Annibynnol

Mae gan yr Awdurdod Heddlu 19 Aelod sy'n cynrychioli eu hardaloedd lleol a De Cymru yn gyfan.
 
Yn ogystal â deg Cynghorydd, a ddewisir gan yr Awdurdodau Lleol, ceir naw Aelod Annibynnol. Mae'r rhain yn aelodau lleol o blith y cyhoedd sydd am weithio ar ran eu cymunedau.
 
Penodir Aelodau Annibynnol am dymor o bedair blynedd ac fel arfer am uchafswm o ddau dymor. Mae angen bod o leiaf un ohonynt yn Ynad Heddwch.
 

Cofrestru eich diddordeb

 
Mae'r rownd recriwtio nesaf ar gyfer Aelodau Annibynnol yn debygol o fod ym mis Medi/Hydref 2010. Os hoffech dderbyn pecyn cais pan fyddant ar gael, cliciwch ar y ddolen isod a rhoi eich manylion:
 
 

Rhinweddau

 
Mae Aelodau Annibynnol yn agored i unrhyw un sy'n byw o fewn ardal De Cymru, ac sydd wedi gwneud hynny am o leiaf 12 mis.
 
Mae'r Awdurdod Heddlu yn chwilio am bobl sydd â:
  • Sgiliau Cyfathrebu da a pharodrwydd i geisio barn a gwrando ar farn pob rhan o'r gymuned leol ar faterion plismona.
  • Sgiliau, profiad a gwybodaeth berthnasol, er enghraifft mewn rheoli, busnes, cyllid, cysylltiadau cymunedol neu hiliol.
  • Gwybodaeth am faterion amrywiaeth i gefnogi dyletswydd yr Awdurdod i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn yr heddlu.
  • Y gallu i gynrychioli ystod eang o gymunedau lleol a herio barn a dderbynnir mewn modd adeiladol.
 
Mae'n hanfodol bod Aelodau'r Awdurdod yn gynrychioliadol o gymunedau De Cymru, a chroesawn geisiadau gan bawb cymwys waeth beth fo'u hoedran, rhyw, cred grefyddol, cyfeiriadedd rhywiol, anabledd na ffactorau eraill.
 

Proses Recriwtio

 
Gosodir hysbyseb mewn o leiaf ddau bapur lleol yn datgan ein bod am recriwtio aelodau newydd. Caiff y dyddiad cau a'r manylion cyswllt eu cynnwys yn hwn.
 
Unwaith y bydd y dyddiad cau wedi mynd heibio bydd Panel Dewis yn ystyried yr holl geisiadau. Mae'r Panel yn cynnwys tri Aelod Awdurdod Heddlu ynghyd â chynrychiolydd o'r Swyddfa Gartref ac Asesydd Annibynnol.
 
Yn dilyn ymarferiad didoli papur cychwynnol, bydd y Panel Dewis yn llunio “rhestr hir”, a wahoddir am gyfweliad. Bydd y cyfweliadau hyn yn cynorthwyo'r Panel i greu rhestr fer o'r ymgeiswyr, a gaiff ei roi i Banel Penodiadau'r Awdurdod Heddlu.
 
Mae'r Panel Penodiadau yn cynnwys Cynghorwyr Aelodau ac Aelodau Annibynnol yr Awdurdod. Ni chaniateir i Aelodau'r Awdurdod sy'n gwasanaethu ac sy'n gwneud cais am dymor pellach yn y swydd i eistedd ar y panel hwn.
 
Bydd y Panel yn cyfweld yr ymgeiswyr ar y rhestr fer. Gall y cyfweliadau hyn gynnwys ymarferiad bach sy'n ymwneud â gwaith Aelod Annibynnol.

 

Wybodaeth ddiweddaraf
Dilynwch ni ar Twitter:

@ahdecymru

Give Us Your Views

Give Us Your Views
Have your say on local policing.
Click here to take part.

Stopio a Chwilio

Stopio a Chwilio A fyddech chi’n gwybod eich hawliau pe caech eich stopio neu eich stopio a'ch chwilio gan yr heddlu?

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth.
Hafan